Neidio i'r prif gynnwy

Am y brechlyn

Gall y ffliw fod yn ddifrifol iawn. Mae'n cael ei achosi gan feirws, sy'n cael ei ledaenu gan beswch a thisian. Gall symptomau ffliw fod yn ysgafn ond gall hefyd arwain at afiechydon mwy difrifol fel broncitis a niwmonia (heintiau ar yr ysgyfaint), a all fod angen triniaeth yn yr ysbyty. 
 
Mae ffliw yn heintus iawn, a gall symptomau ymddangos yn gyflym iawn. Mae symptomau ffliw yn cynnwys tymheredd uchel, blinder a gwendid, cur pen, poenau a pheswch. Mae rhagor o wybodaeth am y ffliw ar gael o: NHS 111 Wales - Lechyd A-Y Ffliw (gwefan allanol ) 

Mae achosion o ffliw y rhan fwyaf o aeafau, yn enwedig mewn ysbytai a chartrefi gofal. 
 
Mewn gaeaf arferol, bydd miloedd o bobl yn marw o salwch sy'n gysylltiedig â ffliw yn y DU. Cael brechlyn ffliw bob blwyddyn yw un o’r ffyrdd gorau o amddiffyn rhag y ffliw. 

Gwybodaeth am y brechlyn ffliw 

Mae achosion o ffliw bob gaeaf. Mae’n bwysig iawn cael eich brechlyn ffliw bob blwyddyn os ydych chi’n gymwys. 

Mae brechlynnau ffliw yn gyflym ac yn ddiogel iawn a gallent atal wythnosau o salwch difrifol. 

Oedilion 


 

 

Plant a phobl infanc 


 

Dilynwch ni: