Bydd cael brechlyn ffliw yn helpu i amddiffyn eich plentyn rhag y ffliw.
Mae amddiffyniad yn dechrau tua phythefnos ar ôl cael y brechlyn. Mae'r brechlyn fel arfer yn cynnig amddiffyniad da i blant rhag y ffliw.
Mae hefyd yn helpu i leihau’r siawns y bydd plant a phobl ifanc yn lledaenu’r ffliw i eraill sy’n wynebu risg uchel o’r ffliw, fel babanod ifanc, oedolion hŷn, a’r rhai â chyflyrau iechyd hirdymor.
Mae rhai pobl yn dal i gael y ffliw hyd yn oed ar ôl cael brechlyn ffliw, ond yn aml gyda symptomau ysgafnach. Nid yw brechlynnau ffliw yn amddiffyn rhag annwyd, feirysau anadlol eraill neu salwch gaeaf arall.