Neidio i'r prif gynnwy

Pa fath o frechiad ffliw sy'n cael ei roi i blant a phobl ifanc?

Bydd y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn cael brechlyn chwistrelliad trwynol gan mai dyma’r brechlyn ffliw gorau iddyn nhw. Mae'n anwedd mân wedi'i chwistrellu i fyny'r trwyn a gellir ei roi o ddwy oed. Mae'n ddi-boen ac yn ddiogel, ac nid yw'r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc fel arfer yn cynhyrfu ar ôl cael brechlyn ffliw chwistrelliad trwynol.  

Os bydd eich plentyn yn methu ei frechlyn ffliw, siaradwch â'i nyrs ysgol, ymwelydd iechyd, meddyg teulu neu nyrs practis am gael y brechlyn. 

Ni ddylid rhoi’r brechlyn chwistrelliad trwynol i unrhyw un sydd

  • dan ddwy flwydd oed; 

  • 18 oed neu hŷn; 

  • sy’n feichiog; 

  • ar driniaeth aspirin (salicylate) hirdymor; 

  • yn cymryd tabledi steroid dos uchel (ar hyn o bryd, neu yn ystod y pythefnos diwethaf); neu 

  • mewn cysylltiad agos â rhywun sydd â system imiwnedd wan iawn (er enghraifft, ar ôl trawsblaniad mêr esgyrn) ac sy’n derbyn gofal mewn amgylchedd gwarchodedig. 

Bydd eich gweithiwr iechyd proffesiynol yn gwneud asesiad cyn rhoi'r brechlyn. 


Ni all y brechlyn chwistrelliad trwynol gael ei roi i unrhyw un sydd â’r canlynol: 

  • wedi cael adwaith alergaidd difrifol a oedd yn bygwth bywyd i frechlyn ffliw (neu unrhyw gynhwysyn yn y brechlyn); 

  • system imiwnedd wan; 

  • brest wichiog ar ddiwrnod y brechiad neu yn ystod y tri diwrnod blaenorol; 

  • cynyddu'r defnydd o'u hanadlwyr asthma yn ystod y tridiau blaenorol. 

Mae pigiad brechlyn ffliw ar gael i blant a phobl ifanc na allant gael y brechlyn chwistrelliad trwynol, gan eu meddygfa. 

Dylai plant a phobl ifanc ag asthma sydd angen steroidau geneuol rheolaidd neu sydd wedi bod angen triniaeth gofal dwys ar gyfer eu hasthma yn y gorffennol gael eu cyfeirio at arbenigwr i gael cyngor ar dderbyn y brechlyn chwistrelliad trwynol. Efallai y cynigir pigiad brechlyn ffliw iddynt yn lle hynny neu efallai y bydd angen iddynt gael y brechlyn chwistrelliad trwynol yn yr ysbyty. 

Os yw eich plentyn yn cael mewnblaniad yn y cochlea yn yr wythnos cyn ei apwyntiad brechiad chwistrelliad trwynol neu ar fin cael y brechiad yn y pythefnos ar ôl 

cael ei fewnblaniad, siaradwch â'ch ymwelydd iechyd, nyrs ysgol, meddyg teulu neu nyrs practis am ragor o gyngor.

Dilynwch ni: