Ar ôl y brechiad chwistrelliad trwynol rhag y ffliw, mae rhai o’r sgîl-effeithiau mwyaf cyffredin ymhlith plant a phobl ifanc yn ystod y diwrnod neu ddau cyntaf yn cynnwys:
trwyn yn rhedeg neu wedi'i rwystro
llai o archwaeth
gwendid
twymyn
cur pen, ac
phoenau yn y cyhyrau
Os oes gan blentyn neu berson ifanc y brechiad ffliw trwy chwistrelliad, mae rhai o'r sgîl-effeithiau mwyaf cyffredin yn cynnwys:
poen, cleisio, cochni, caledwch neu chwydd lle rhoddwyd y pigiad
pen tost/cur pen
poen yn y cyhyrau
blinder
newid mewn arferion bwyta
tymer flin
cysgadrwydd
dolur rhydd, a
twymyn ysgafn.
Mae brechlynnau rhag y ffliw yn ddiogel iawn.
Ar gyfer pob sgil-effeithiau ac i gael rhagor o wybodaeth am y brechlyn, gweler y daflen wybodaeth berthnasol i gleifion:
Dylech roi gwybod am unrhyw sgîl-effeithiau’r brechlyn drwy gynllun y Cerdyn Melyn ar-lein yn www.mhra.gov.uk/yellowcard (safle allanol, Saesneg yn unig), drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn neu ffonio 0800 731 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm).