Nid yw annwyd neu fân salwch arall yn rheswm i ohirio brechiad rhag y ffliw. Os yw'ch plentyn yn sâl gyda thymheredd uchel, mae'n well gohirio ei frechiad nes ei fod yn teimlo'n well.
Cofiwch ddilyn y cyngor diweddaraf os oes gan eich plentyn unrhyw symptomau COVID-19. Ewch i: Canllawiau i bobl sydd â haint anadlol, gan gynnwys COVID-19 | LLYWODRAETH CYMRU (safle allanol)
Os na all eich plentyn osgoi dod i gysylltiad â rhywun sydd ag imiwnedd gwan iawn, fel rhywun sydd wedi cael trawsblaniad mêr esgyrn yn ddiweddar, dylech drafod hyn gyda'ch meddyg neu nyrs cyn i'ch plentyn gael y brechlyn chwistrelliad trwynol. Efallai y bydd yn penderfynu cynnig brechlyn ffliw i'ch plentyn yn lle hynny.