Neidio i'r prif gynnwy

Sut byddaf yn gwybod a oes ffliw arnaf?

Pan fydd pobl yn cael y ffliw, maent yn tueddu i fynd yn sâl yn eithaf cyflym. Gall symptomau gynnwys twymyn, oerfel, cur pen a chyhyrau poenus, yn aml gyda pheswch a dolur gwddf. 

Nid yw tua hanner y bobl sydd wedi'u heintio â’r ffliw hyd yn oed yn sylweddoli hynny, ac eto gallant ledaenu'r feirws i eraill o hyd. Gall hyn weithiau achosi salwch difrifol gan arwain at ofal ysbyty, ac mewn achosion prin, marwolaeth.  

Mae rhai symptomau COVID-19 yn debyg i’r ffliw felly darllenwch y cyngor diweddaraf a dilynwch y canllawiau COVID-19 cyfredol sydd ar gael yma: Canllawiau i bobl sydd â haint anadlol, gan gynnwys COVID-19 | LLYWODRAETH CYMRU (safle allanol) 

Dilynwch ni: