Neidio i'r prif gynnwy

Beth sydd angen i mi ei wneud?

Os ydych chi'n oedolyn mewn grŵp risg, yn feichiog neu'n 65 oed neu hŷn, gallwch gael eich brechlyn ffliw yn eich Practis Meddyg Teulu neu mewn rhai fferyllfeydd cymunedol.  

Dylai gweithwyr gofal iechyd rheng flaen gael brechlyn y ffliw trwy eu cyflogwr fel rhan o ofal iechyd galwedigaethol. Os nad ydych yn siŵr, gofynnwch i'ch cyflogwr ble y gallwch gael eich brechlyn.  

Dylai gweithwyr cymdeithasol (mewn cysylltiad â phreswylwyr neu ddefnyddwyr gwasanaeth), staff cartrefi gofal a gofalwyr cartref siarad â'u rheolwr am gael y brechlyn ffliw. 

Mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, gellir rhoi’r brechlyn mewn rhai fferyllfeydd cymunedol.  

Os ydych chi’n meddwl y gallech fod wedi colli’r apwyntiad i gael brechlyn y ffliw, cysylltwch â’ch meddyg teulu neu eich fferyllfa gymunedol. 

Os yw'ch plentyn yn gymwys i gael brechlyn ffliw, gweler yr wybodaeth yn yr adran 'Plant a phobl ifanc' ymhellach i lawr y dudalen.

Dilynwch ni: