Neidio i'r prif gynnwy

A fydd brechlyn rhag y ffliw yn fy amddiffyn?

Mae brechiad rhag y ffliw yn un o’r ffyrdd gorau o amddiffyn rhag dal a lledaenu’r ffliw. Mae amddiffyniad yn dechrau tua phythefnos ar ôl cael y brechlyn. 

Mae feirysau ffliw yn newid yn gyson. Bob blwyddyn mae brechlynnau ffliw yn cael eu newid i gyd-fynd â’r feirysau ffliw sy’n debygol o fod yn cylchredeg. 

Fel pob meddyginiaeth, nid oes unrhyw frechlyn yn gwbl effeithiol. Efallai y byddwch chi'n dal i gael y ffliw, ond mae'ch symptomau'n debygol o fod yn ysgafnach. Nid yw brechlynnau ffliw yn amddiffyn rhag annwyd, feirysau anadlol eraill, neu salwch gaeaf arall. 

Dilynwch ni: