Mae brechu yn achub bywydau. Maen nhw’n atal hyd at 3 miliwn o farwolaethau ledled y byd bob blwyddyn.
Mae'n bwysig bod pob plentyn a baban yn cael eu himiwneiddio'n llawn i'w hamddiffyn rhag afiechydon difrifol posibl. Gellir gweld amlinelliad o'r amserlen imiwneiddio i blant ar y ddolen isod.
Os ydych chi'n rhiant/gofalwr ac os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon am unrhyw agwedd ar imiwneiddiadau eich plentyn neu'n teimlo bod eich plentyn wedi colli brechiad, dylech eu trafod gyda meddyg, ymwelydd iechyd, nyrs practis neu nyrs ysgol eich plentyn.
Gellir dod o hyd i ymatebion i Gwestiynau Cyffredin am rai o'r imiwneiddiadau i blant, gan gynnwys MMR isod.
Mae'r brechlyn MMR yn frechlyn diogel ac effeithiol iawn sy'n amddiffyn rhag y frech goch, clwy'r pennau a rwbela (brech goch yr Almaen). Mae'n cael ei roi yn rhad ac am ddim gan y GIG fel mater o drefn ac mae'n ofynnol i ddau ddos o'r brechlyn gael yr amddiffyniad gorau posibl1. Bydd y brechlynnau'n cael eu cynnig i'ch plentyn trwy eu practis meddyg teulu. Fel rhan o'r rhaglen frechu ysgolion, mae timau Nyrsio Ysgolion hefyd yn darparu sesiynau dal i fyny MMR mewn ysgolion uwchradd yn ôl yr angen.
Isod mae rhai atebion i gwestiynau cyffredin am y brechiad MMR.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: www.icc.gig.cymru/BrechlynMMR.