Os oes gennych ddiddordeb mewn rhannu eich stori am y gwahaniaeth y mae cefnogaeth wedi'i wneud i chi, byddem yn falch o glywed gennych - ysgrifennwch atom yn: CTM.Concerns@wales.nhs.uk
Hysbysiad Cynnwys: Efallai y bydd y profiadau a rennir yma yn peri gofid; os ydych chi'n aelod o gymuned y Lluoedd Arfog neu'n aelod o'r teulu ac yn teimlo eich bod wedi cael eich effeithio, cofiwch fod cefnogaeth ar gael ac nad ydych chi ar eich pen eich hun.
Fy enw i yw Dean a dw i’n aelod o Valley Veterans ym Merthyr a dw i’n mynd i'r hyb yn y Rhondda hefyd. Dw i hefyd yn aelod ac yn wirfoddolwr gyda Blind Veterans UK.
Cyn i mi gysylltu â Blind Veterans, doedd bywyd ddim yn dda iawn. Roedd gen i broblemau gyda diod, iselder. Ar y pryd, doeddwn i ddim yn sylweddoli fy mod yn dioddef o Anhwylder Straen Ôl-Drawmatig (PTSD). Gwahanodd y wraig a minnau a daeth un ferch i fyw gyda fi, a daeth adeg lle nad oeddwn i eisiau bod o gwmpas ddim mwy, a phenderfynais roi'r gorau iddi. Ffoniodd fy merch o gwmpas i weld os allwn i gael unrhyw help. Cysylltodd hi â Help for Heroes ond mae'n debyg nad ydw i'n ‘hero’ [yn ôl nhw], felly doedden nhw ddim eisiau gwybod. Gwasanaethais yng Ngogledd Iwerddon, am bum mlynedd. A deng mlynedd mewn rhannau eraill. Yn y pen draw, daeth y Gwasanaethau Cymdeithasol i mewn a chefais fy rhoi mewn cyswllt â Blind Veterans. Roeddwn i'n cael trafferth gyda nhw ar y dechrau oherwydd doeddwn i ddim yn cyfaddef nad oeddwn i'n gallu gweld. Roedd popeth yn gwaethygu, a doeddwn i ddim yn ymdopi â'r cyfan.
Ond fe wnaethon nhw fy nhroi o gwmpas. Trodd menyw benodol yno fi o gwmpas. Ac ers hynny, dw i wedi ymdopi’n wych. Dw i’n rhedeg Clwb Cinio Cyn-filwyr fy hun, ond cyn hynny roeddwn i'n eistedd yn y tŷ, oni bai am y ffaith fy mod i'n mynd allan unwaith y mis gyda'r Blind Veterans. Ond yna daeth Woody draw, ac mae wedi bod yn fendith gyda'r hwb. Fe ddaeth â mi draw i ganolfan Merthyr. Mae'r bechgyn wedi bod yn wych gyda fi. Maen nhw wedi dod â fi allan yn syth. Ac mae'n fywyd hollol wahanol; dw i’n berson gwahanol i beth oeddwn i o'r blaen. Mae'n dda bod yn fyw diolch i'r bobl yma. Ond oni bai am y Cyn-filwyr, fyddwn i ddim yma heddiw, a dweud y gwir. Dydy pob arferol ddim yn gwybod sut i ddelio â ni. Mae gennym ni, filwyr, ffyrdd penodol o fyw. Ond os ewch chi at ddinesyddion, does dim syniad gyda nhw amdanon ni. Dydyn nhw ddim yn gwybod. Dydyn nhw ddim yn gwybod sut rydyn ni'n siarad.
Rydych chi'n gwrando ar hyn nawr. Mae F hyn a B hyn [rhegi], ond dyna sut rydyn ni. Ac mae’n wych. Mae wedi dod â fi'n ôl at fyw. Dwi eisiau byw nawr. Dw i eisiau byw, oherwydd mae gen i reswm i fyw nawr. A'r Bilnd Veterans, maen nhw wedi bod mor anhygoel gyda fi. Mae wedi bod yn wych i mi, i fod yn onest gyda chi. Cododd un fenyw, Catherine, fy ysbryd yn llwyr, ac rydyn ni’n dod ymlaen yn wych. Mae wedi bod yn newid bywyd. Tra o'r blaen doedd neb eisiau gwybod, doedd neb yn malio dim amdanoch chi. Ac fe gymerodd un fenyw i newid y cyfan.
Dyna fyddai un newid: mynd i mewn i Blind Veterans a chwrdd â Catherine. Roedden ni’n cael amser caled ar y dechrau, ond fe wnaeth hi ddal ati — a llwyddo i’m rhoi ar y trywydd iawn yn y diwedd. Fe wnaeth hi fy helpu i ddod allan o’r twll ro’n i ynddo, achos do’n i ddim isio trafferthu neb. Doedd dim gwerth bywyd i mi, a doedd neb arall yn poeni dim.” Dyna oedd y newid mwyaf yn fy mywyd, mynd i mewn a chyfarfod â nhw.
Rydyn ni'n mynd drwy gyfnod anodd ar hyn o bryd, ond mae'n iawn. Fydda i ddim yn dweud ei fod yn wych. Mae’r bechgyn yma’n helpu llawer. Rwy’n dweud wrthych. mae’r canolfannau hyn yn fendith. Dewch â chymaint o bobl i mewn iddyn nhw â sy’n bosibl oherwydd gallwch chi siarad â'r bobl hyn. ‘Milwr? ‘Cau dy geg’ oherwydd dyw e ddim i fod i siarad; mae e’n ddyn mawr caled. Ond dyw e ddim, mae'n berson, ac mae’n dymuno siarad. Ac [yma] mae'n gwybod y gall siarad â'i fath ei hun.
Dw i'n cael pawb i mewn, cymaint o bobl ag y gallaf. Dw i’n delio â llawer o bobl hŷn ar hyn o bryd oherwydd eu bod yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain unwaith y byddant yn cyrraedd oedran penodol. Dw i’n ffrindiau da gyda dyn sy’n 99 oed. Mae'n 99 oed ym mis Mehefin ac fe wnes i gyfarfod ag ef drwy Blind Veterans. Rydyn ni wedi bod yn ffrindiau agos ers hynny. Ac mae e'n berson hollol wahanol. Doedd e ddim yn gallu credu’r peth ar y dechrau. Ac fe ddaeth a dywedodd, ‘Y peth gorau dw i erioed wedi’i wneud yw dod i Blind Veterans’.
Mae gen i a fy ffrind Graham rywbeth arbennig: os ydyn ni’n gweld rhywun yn eistedd ar ei ben ei hunain, byddwn ni'n ei galw draw, yn ei gael i eistedd wrth ein hymyl ac yn ceisio ei gael i siarad; jest dechrau sgwrsio. Ac rydyn ni wedi dod â rhai ohonyn nhw draw. Rydyn ni'n eu dwyn i mewn yn araf oherwydd unwaith i chi eu cael nhw i siarad maen nhw'n dod allan ohonyn nhw eu hunain a'r hyn maen nhw wedi mynd drwyddo, ac yna rydych chi'n darganfod 'Lle fuoch chi’n gwasanaethu? Beth wnaethoch chi?’
Newid mawr arall yw fy mod i'n mynd allan ac o gwmpas nawr lle roeddwn i [o'r blaen] yn sownd yn y tŷ am 24 awr y dydd. Dw i'n mynd allan, dw i'n cwrdd â phobl. Dyna sut wnes i gwrdd â Woody. Roedd fy ffrind yn arfer dod drosodd ac yn mynd â fi i Wetherspoon's yn Nhredegar am beint. Ac roeddwn i yno un diwrnod a daeth Woody draw ataf a dywedodd wrtha i am hyn, llall ac arall am y ganolfan hon. Ac ers hynny mae wedi bod yn wych. I ble bynnag mae'n mynd, dw i’n mynd gydag ef. Y penwythnos hwn, roeddwn i wedi bod yn eistedd yn y tŷ [trwy'r penwythnos] ac fe aeth â mi allan i Henffordd. Mae'n fy ffonio fyny a gofyn ‘Wyt ti eisiau dod gyda fi?’ ac roedd dyn yno yn rhoi sgwrs am ei amser yn yr SAS. Roedd yn wych, roedd e'n ffantastig.
Gall fod yn gam mawr [dod i le fel hyn]. Roedd yn gam anferth i mi. Pan es i gyntaf gyda Blind Veterans, trafodon nhw am fynd i fyny i Landudno. ‘Doeddwn i ddim yn gwybod’, dywedais i. Dw i wedi arfer bod ar fy mhen fy hun, yn fy nghwmni fy hun. Wel, roedd dyn arall o Gwmbran a oedd newydd ddechrau gyda Blind Veterans. Dywedon nhw ‘Be wnawn ni yw, dy rhoi gyda Mike i fynd fyny gyda'ch gilydd’. A dyna beth wnaethom ni. Aethom i fyny a dechreuon ni sgwrsio. Cwrddon ni â phobl eraill ac fe wnaethon nhw ffitio i mewn yn syth. Ac fe gyrhaeddon ni yno, a mynd o’r fan honno ymlaen. Rwyf wedi bod ar y teledu hefyd. Ar y newyddion. Duw a ŵyr sawl gwaith!
Aeth y bechgyn â fi draw ar gyfer digwyddiad y GIG. Roeddwn i'n aros i gael tynnu coden y bustl allan; roedd wedi bod yn mynd ymlaen ers dros flwyddyn ac roeddwn i mewn ac allan o'r ysbyty drwy'r amser. Dechreuais i siarad â'r nyrs yno a gofynnodd a fyddai ots gen i wneud cyfweliad iddyn nhw. A nes i ddweud wrthyn nhw am y gwahanol bethau oedd yn mynd ymlaen - fel dw i'n ei ddweud wrthych chi nawr - a dweud wrthyn nhw fy mod i’n aros am fy llawdriniaeth, a sut ro’n i wedi cael fy nal yn y canol rhwng dau fwrdd iechyd am gymaint o amser.
Daeth dyn, alla i ddim cofio ei enw, oedd yn gweithio gyda PALS sydd mewn ysbytai ac maen nhw'n delio â chyn-filwyr. Dywedodd e, iawn, fe wna i siarad gyda nhw, a'r peth nesaf dwi'n ei wybod, roeddwn i'n mynd i gael fy llawdriniaeth. Daeth hynny i fodolaeth oherwydd y digwyddiad. Does dim pwynt eistedd adref a bod yn drist heb wneud dim am y peth. Mae'n rhaid i chi helpu'ch hun, a dyma beth maen nhw'n ei ddweud ar y teledu, mae siarad yn helpu, ac mae gwneud hynny, wir yn helpu.
Roedd gennym ni ddyn, dim ond yn ifanc ydy o ac mae 'na syndrom, wn i ddim a ydych chi erioed wedi clywed amdano, Syndrom Charles Bonnet. Pan fyddwch chi'n colli'ch golwg, does gan y rhan o'r ymennydd sy'n delio â'ch llygaid ddim i'w wneud, mae'n ddi-waith, heb ddihuno fel petai. Felly mae'n creu pethau ac yn eu rhoi o'ch blaen chi fel eich bod chi'n gweld pethau. Mae yna fosaigau, pobl wedi'u gwisgo mewn dillad lliwgar neu gallant fod mewn du a gwyn. Ond mae gennych chi'r ochr dywyll hefyd, sy'n un wirioneddol ddrwg.
Roeddwn i'n gallu gweld ei fod yn siarad gyda’i hun ac yn pwyntio at y gadair, ond doedd neb yno. Wel, roeddwn i'n gwybod yn union beth oedd hynny oherwydd dyna fy mhwnc i, Charles Bonnet. Roedd un o'i staff [cymorth] yno, ond dim ond yn ei wylio. Wel, dydy hynny ddim yn ddigon da. Felly eisteddodd Graham a minnau a siarad ag ef, ac roedden ni yno am dros awr, yn siarad ag ef. Dywedodd e, ‘Allwch chi eu gweld nhw? Mae tri o bobl yno,’ a dywedais i, ‘Ie, dw i’n gallu eu gweld nhw’. Yn y pen draw, aeth ei gynorthwyydd ag e fyny i’r gwely, ac aeth yn hollol bryderus. Doedd dim golwg ohono y bore wedyn.
Teitl ar gyfer y stori? Beth am, 'Mae bywyd yn werth ei fyw'?
Pan ddes i allan o'r lluoedd, ges i fy ngadael ar fy mhen fy hun i ryw raddau. Ar ôl hynny, fe gymerodd hi amser hir i mi ymgartrefu, ond unwaith roeddwn wedi setlo, dechreuais gael breuddwydion am syrthio i lawr twnnel cul, ac roedd hi'n teimlo fel petai byth yn diflannu. Yna, ar ôl sawl blwyddyn, pan ymddeolais, cefais pyliau o banig enfawr. Roeddent yn credu ei fod yn deillio o weithio 100 milltir yr awr ac yna dod i stop. Arweiniodd un peth at y llall wedyn a dechreuais gael y breuddwydion rhyfedd hyn. Pethau a ddigwyddodd yn ôl pan oeddwn i yn y lluoedd arfog. Felly es i at y meddyg a dywedodd, 'Alla i ddim helpu llawer, ond alla i’ch cysylltu chi â rhywun sy’n gallu, ond mae’n rhestr aros o ddwy flynedd.'
Yn y cyfamser, am resymau gwahanol, es i i Macmillan. Fe welais i ddyn yno. Gwelais ef am sawl wythnos ac roedd yn gweithio. Yna, yn annisgwyl, dywedodd, ‘Alla i ddim gwneud mwy i ti.’ Es i'n ôl at y meddygon ynglŷn â hynny a dywedodd 'gad i mi ffonio rhywun'. Ffoniodd rywun a dweud, ‘bydd rhywun yn cysylltu â chi o Dewi Sant’. Felly, o fewn pythefnos roedd gen i apwyntiad, es i lawr yno a chefais fy nghyflwyno i'r cyn-filwyr yma.
Felly des i fyny yma. Cyrhaeddais at y drws ac roeddwn i’n bryderus iawn, roedd ychydig o fechgyn allan yno’n siarad a dywedon nhw, ‘oh, hiya butt’ a phethau felly. A meddyliais, 'Dw i’n teimlo’n gartrefol yn barod'. Cerddais i mewn drwy’r drws bryd hynny ac roedd pawb mor groesawgar. Teimlais yn gyfforddus yno’n syth. A dyma'r peth gorau sydd erioed wedi digwydd i mi, a dweud y gwir, oherwydd dw i'n dal i ddioddef o PTSD. A ‘dw i wedi cael un peth ar ôl y llall gyda phob math o ganserau gwahanol ac ati, ac mae popeth wedi dal fyny gyda fi.
Ond mae dod yma a siarad â’r bechgyn.. oherwydd dywedodd y meddyg dw i’n ei weld yn Dewi Sant ‘Dyle chi sgwrsio.’ Sgwrsio â phobl. A dyna beth wnes i, ac mae wedi fy helpu i. Dim ond sgwrsio gyda'r bechgyn. Dw i ychydig dros flwyddyn yma nawr ac mae'n wych, dyma'r peth gorau i mi... Mae'n wych oherwydd rydych chi’n medru siarad gyda phobl, waeth beth yw eich statws, boed chi'n ddinesydd neu beidio. Mae'r fyddin yn frawdoliaeth. Gallwch chi siarad a byddan nhw'n deall a byddan nhw'n troi ac yn dweud, ‘oh, you silly sod!’ ‘Banter’, chi ‘mod.
Un peth arall sydd wedi newid - mae'r wraig yn gwybod. Oherwydd nad oedd hi'n gwybod dim byd am hyn o gwbl. Roeddwn i'n cadw popeth i mi fy hun, heb siarad amdano. Ac wrth gwrs, fe drodd fy meddyg a dweud wrtha i, ‘wyt ti eisiau i dy wraig ddod i mewn?’ A meddyliais amdano, a dywedais, 'ie, pam ddim'. A dywedais bopeth wrthi. Doedd hi methu credu’r peth, ond mae hi'n deall nawr. Dyma lle dechreuais i fod yn gyfforddus yn siarad â phobl.
Cymrodoriaeth. Y ‘banter’ a'r sŵn sy'n gwneud iddi deimlo'n groesawgar yma. Mae'n wych, yr hyn sydd ganddyn nhw yma, y gwahanol bobl sy'n dod yma i'ch helpu chi. Mae'n anhygoel.
Weithiau roeddwn i mewn lle tywyll cyn i mi ddod yma. Roeddwn i wrthi’n siarad â'r bechgyn nawr, dywedais iddyn nhw, 'ydych chi byth yn teimlo eich bod chi’n gallu mynd adref, eistedd mewn cadair, cau’ch llygaid, a dyna ni'. Ac edrychon nhw arna i fel taswn i’n dwp. Ond weithiau dyna sut dw i'n teimlo. Mae gennych chi ddyddiau isel a dyddiau da. Ond dwi i’n dal popeth i mewn. Dw i'n gadael iddo ddod allan yn araf. Dw i mewn lle gwell nawr. Ond maen nhw wedi bod yn yr un lle.
Dw i'n meddwl mai'r cyn-filwyr eu hunain sy'n ei gadw i fynd. Ond y bobl sy'n ei redeg, pobl fel Nigel, Sian a Paul, maen nhw'n hollol wych. Does dim byd yn ormod o broblem. Mae wastad rhywbeth y gallant ei wneud i chi. Does dim byd yn ormod o drafferth. Ac, ie, fe wnaethon nhw bethau'n llawer haws i mi ddod yma, a dweud y gwir. Pobl neis.
Dw i newydd gael fy mhwysedd gwaed wedi'i gymryd nawr, ac mae hi wedi ysgrifennu’r cyfan i lawr. Mae'n rhaid i mi wneud apwyntiad i weld y meddyg nawr. Mae o wedi ffonio ar gyfer fy ngweld i yn barod. Pethau bach fel 'na,, mae'n wych, oherwydd ei fod yn rhoi trefn ar bethau. Dw i'n meddwl bod gen i dipyn o ffordd i fynd o hyd, dw i eisiau cael gwared ar rai o'r meddyliau tywyll, ond byddan nhw'n mynd.
Mae’n dipyn o sbort. Rydych chi’n cael sbort. Yr holl chwerthin a'r sgwrsio a’r ‘banter’ , mae fel bod yn ôl (yn y lluoedd). Mae gen ti'r cyfeillgarwch, y brawdoliaeth, fel petai. Dyw e ddim yr un peth â chael ffrindiau yn ‘Civvy Street’. Oes, mae gennych ffrindiau da yn Civvy Street, ond y bobl yma, maen nhw'n byw gyda chi. Cysgu yn yr un ystafell, rhannu toiledau, ac yn y blaen. Rydych chi i gyd gyda'ch gilydd, ac rydych chi wedi rhannu profiadau na all pobl eraill eu deall. Rydych chi'n helpu eich gilydd. (Pan oeddwn i yn y fyddin) roedd y person wrth eich ymyl yn eich helpu chi. Eich helpu chi gyda'ch cit a’i wneud i fyny.
Byddwn i'n gwneud y cyfan eto, heb amheuaeth. Dydych chi byth ar eich pen eich hun. Mae rhywun yno bob amser. Pe bawn i'n mynd i ddweud wrth rywun am Valley Veterans, byddwn i'n dweud 'Dewch yn llu!' Dewch i mewn!’
Mae Lynne yn dod ag oes o wasanaeth, tosturi ac ymroddiad i gefnogi eraill i gael rôl wirfoddol yng Nghwm Taf Morgannwg.
Dechreuodd ei thaith wasanaethu ym 1973, gan ymuno â Gwasanaeth Llyngesol Brenhinol y Menywod yn 19 oed yn unig, ar ôl dwy flynedd a hanner yn gweithio i'r Bwrdd Glo Cenedlaethol fel teipydd llaw-fer. Ar ôl cwblhau ei hyfforddiant cychwynnol yn HMS Dauntless a hyfforddiant pellach yn Chatham, cafodd ei phostio i HMS Victory (HMS Nelson bellach) yn Portsmouth, lle bu’n gweithio fel Ysgrifennwr Cyffredinol yn Admiralty House yn yr Iard Ddociau. Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd yr anrhydedd o wirfoddoli yng Ngwasanaeth y Coffa yn Neuadd Frenhinol Albert - profiad y mae hi'n dal i'w gofio gyda balchder mawr.
Aeth ei gyrfa yn y llynges â hi dramor i HMS St Angelo ym Malta (1976–1977), lle bu’n cefnogi uwch swyddogion yn y Fort St Angelo hanesyddol. Yn ddiweddarach symudodd i HMS Lympstone yn Exmouth a gwirfoddolodd am bedwar mis o amser yng Ngogledd Iwerddon gyda 42 Commando, lle dyfarnwyd y Fedal Gwasanaeth Cyffredinol iddi.
Ar ôl gadael y Llynges ym 1978, parhaodd i adeiladu gyrfa wedi'i gwreiddio mewn cefnogi pobl. Gweithiodd fel Cynorthwyydd Personél i Sony UK cyn camu'n ôl i fagu ei merch. Arweiniodd ei hangerdd dros ofalu am eraill hi i rolau mewn gofal plant preswyl, lle bu’n cefnogi plant ifanc, mewn profiad a luniodd ei dull tosturiol yn ddwfn.
Aeth ymlaen i weithio fel Cynghorydd Relate am bum mlynedd ledled Cymru a'r Almaen, lle cafodd ei hail ŵr ei bostio gyda'r RAF. Tra yn yr Almaen, bu hefyd yn gweithio gyda Home-Start, gan recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr i gefnogi teuluoedd â phlant ifanc. Gan ddychwelyd i Gymru, parhaodd â'r gwaith hwn am 12 mlynedd arall nes i'r gwasanaeth gau'n anffodus.
Dair blynedd a hanner yn ôl, daeth â'i chyfoeth o brofiad i Ysbyty Tywysoges Cymru fel gwirfoddolwr. Mae hi'n defnyddio ei sgiliau gydol oes - amynedd, empathi, gwrando ac anogaeth - i sicrhau bod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu clywed, eu gwerthfawrogi a'u cefnogi heb farn. Mae hi wedi ymrwymo'n fawr i helpu i wneud cyswllt cyntaf pob person â'r ysbyty yn dawelach, yn fwy calonogol, ac yn fwy cadarnhaol.
Y tu allan i'w gwaith, mae hi'n fam-gu falch i naw ac yn hen fam-gu i ddau.
Mae ei stori yn un o wasanaeth gydol oes - ac mae hi'n parhau i wneud gwahaniaeth bob dydd.