Mae tyfu'n dda yn datblygu ar y sylfeini rydyn ni’n eu gosod yn ystod ein blynyddoedd cynnar ac yn ein helpu i ddysgu a datblygu ar hyd y ffordd. Yma, rydyn ni’n cael profiad o'r gwersi sydd eu hangen arnom ar gyfer bywyd, ac rydyn ni’n eu defnyddio i wneud y penderfyniadau gorau ar ein cyfer ni nawr ac yn y dyfodol.
Sut gallai hynny edrych a theimlo?
Gweithio gyda phobl ifanc i nodi a mynd i'r afael â'r anghenion
sy'n bwysig iddyn nhw. Dod o hyd i ffyrdd newydd o ymgysylltu
â'n gwasanaethau a gwneud y gorau ohonynt.
Mae hyrwyddo ymddygiad iach ymhlith pobl ifanc yn
hybu eu datblygiad ac yn atal niwed mae modd
ei osgoi nawr ac yn ddiweddarach mewn bywyd.
Gwella gallu pobl i gael cymorth iechyd meddwl a gwneud
ein gwasanaethau'n fwy hygyrch a chyfeillgar i bobl ifanc.
Mynd i’r afael â phroblemau, fel gordewdra, mewn modd
mwy cyfannol a chydweithredol.
Ymgorffori'r amgylchedd a manteisio ar fannau presennol
yn ein dull o ddarparu gwasanaethau. Gosod y sylfeini sy'n
mynd i'r afael â niwed mae modd ei atal a niwed mae modd
ei osgoi yn ddiweddarach mewn bywyd.