Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau i wasanaethau oherwydd COVID-19 – Adran Argyfwng Ysbyty Brenhinol Morgannwg

Rydyn ni wedi gwneud newidiadau yn Adran Argyfwng Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn ddiweddar sy’n ein galluogi ni i ddilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol, ac i weithredu mewn modd diogel wrth barhau i fynd i’r afael â’r heriau sy’n codi oherwydd COVID-19.

Rydyn ni wrthi’n rhoi cyfres o gynlluniau ar waith, fydd yn caniatáu i'n hadran argyfwng ddychwelyd at batrwm gweithio mwy arferol, a darparu gwasanaeth 24 awr y dydd. Gan fod ein hystafell aros yn gymharol fach, rydyn ni wedi gorfod gwneud addasiadau er mwyn cadw pellter cymdeithasol a sicrhau diogelwch cleifion.

Y broses ar ôl cyrraedd Adran Argyfwng Ysbyty Brenhinol Morgannwg

  • Bydd pob claf sy'n mynd i’r adran yn cofrestru wrth ddesg y dderbynfa a bydd rhaid ateb sawl cwestiwn sgrinio am COVID-19.
  • Bydd pob claf yn cael masg a bydd gofyn iddyn nhw eistedd yn yr ystafell aros, oni bai bod symptomau COVID-19 gyda nhw. Os felly, byddan nhw’n cael eu hebrwng yn syth i barth penodol ar gyfer cleifion COVID-19.
  • Bydd pob claf yn cael ei asesu gan nyrs frysbennu ac, os yw'n briodol, mae’n bosib y bydd gofyn iddyn nhw aros yn eu car yn y mannau parcio yn y tu allan i'r adran. Bydd y penderfyniad hwn yn dibynnu ar eu hamgylchiadau unigol a chapasiti'r ystafelloedd aros. Fydd hyn ddim yn berthnasol i gleifion agored i niwed, na chleifion paediatrig sy’n agored i niwed o dan y Polisi Diogelu Plant.
  • Bydd y nyrs frysbennu’n llenwi ffurflen manylion cleifion, gan gynnwys manylion cyswllt y claf a rhif cofrestru ei gar. 
  • Bydd cleifion yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’u horiau aros a byddan nhw’n cael taflen wybodaeth i gleifion gyda rhif cyswllt y nyrs frysbennu ac arwydd i'w roi yn ffenestr flaen y car.
  • Yna, bydd cleifion yn cael galwad ar eu rhif ffôn symudol i ddod i'r adran a chael eu hasesu gan glinigwr. Os nad oes ffôn symudol gyda’r claf, bydd aelod o staff yn dod i’w gasglu.

Os na ddaeth cleifion ar gludiant preifat, bydd yr adran yn dod o hyd i le arall iddyn nhw aros. Fydd dim disgwyl i gleifion aros y tu allan os byddan nhw’n cyrraedd ar droed, mewn tacsi ac ati.

Bydd pob claf yn cael ei frysbennu'n glinigol, a bydd asesiad o'u cyflwr a'u hamgylchiadau unigol yn cael ei gynnal, cyn penderfyniad gofyn iddyn nhw aros yn y car.  

Mae mannau parcio arbennig y tu allan i'r adran, a bydd y rheiny y mae gofyn iddyn nhw aros yn eu car yn gallu aros yma nes iddyn nhw gael eu rhyddhau. Bydd y cleifion hyn yn gallu defnyddio’r holl gyfleusterau yn yr adran, gan gynnwys y toiledau, peiriannau bwyd a diod.  

Rydyn ni eisoes yn cael adborth cadarnhaol gan gleifion y mae gofyn iddyn nhw aros yn eu car. Mae hyn wedi gweithio'n dda ac wedi cynnal diogelwch cleifion a’r staff.

Dilynwch ni: