Neidio i'r prif gynnwy
Olivia

Cydlynydd Lles ac Addysg

Amdanaf i

Cydlynydd Lles ac Addysg

Mae gan Olivia radd yn y celfyddydau ac mae hi wedi dysgu celf a ffotograffiaeth yn y sector uwchradd am y 4 blynedd diwethaf.

Roedd Olivia hefyd yn hyfforddwr dysgu ac yn hyrwyddwr Vespa, lle datblygodd hi raglen hyfforddi i wella gweledigaeth, ymdrech, agwedd a systemau disgyblion. 

Mae Olivia wedi gweithio gyda nifer o sefydliadau ac elusennau trwy gydol ei gradd meistr mewn celf, y gofod a natur, yn enwedig ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. 

Mae Olivia wedi hybu ymwybyddiaeth o ddarpariaethau iechyd meddwl, clefyd Alzheimer a’r celfyddydau mewn gofal iechyd, ac mae hi’n frwdfrydig dros y ffyrdd mae’r celfyddydau’n gallu effeithio ar les a’i wella. 

Mae Olivia yn angerddol am addysg, dysgu, lles, iechyd cyfannol a gweithio gyda phobl. Y tu hwnt i'r gwaith, mae Olivia wedi teithio i Japan i arddangos ei gwaith celf.

Mae Hyfforddwyr Lles WISE wedi cwblhau amrywiaeth o sesiynau hyfforddiant arbenigol a phenodol er mwyn rhoi’r cymorth gorau posib i gleifion ein gwasanaeth. Mae hyfforddiant Olivia i’w weld isod:

  • Rhaglen Addysg i Gleifion (EPP)
  • Rhaglen Hunan-reoli Afiechyd Cronig
  • Rhaglen Hunan-reoli Poen Gronig
  • Sgiliau Maeth am Oes Iechyd Cyhoeddus Cymru – Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol Lefel 2 
  • Rhaglen Atal Clefyd Cardiofasgwlar Momenta (CVD)
  • Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC)

I gysylltu â'ch hyfforddwr WISE, e-bostiwch: CTM.WISE@wales.nhs.uk


Dychwelyd at Proffiliau'r Hyfforddwyr Lles