Neidio i'r prif gynnwy
Kathryn

Cydlynydd Lles ac Addysg

Amdanaf i

Cydlynydd Lles ac Addysg

Mae Kathryn wedi gweithio fel gweithiwr cymorth gofal iechyd i’r GIG am y 24 mlynedd diwethaf mewn ward feddygol brysur iawn, ac mae ganddi brofiad o nyrsio ac iechyd meddwl cymunedol. 

Dros y 5 mlynedd diwethaf, mae Kathryn wedi bod yn rhan o dîm sgrinio gwiriadau iechyd cardiofasgwlar, ac mae wedi bod yn ymgynghorydd ffordd o fyw hefyd.

Mae Kathryn wedi gweithio am flynyddoedd lawer gyda chleifion, a’u helpu i wneud dewisiadau iach o ran eu ffordd o fyw i’w hatal rhag datblygu problemau cardiofasgwlar a/neu Diabetes.

Nodau Kathryn fel hyfforddwr lles yw cymell pobl i newid ymddygiadau afiach er mwyn eu helpu yn y pen draw i reoli eu hiechyd a'u lles. 

Yn ei hamser hamdden, mae Kathryn wrth ei bodd yn gwneud jig-sos.

Mae Hyfforddwyr Lles WISE wedi cwblhau amrywiaeth o sesiynau hyfforddiant arbenigol a phenodol er mwyn rhoi’r cymorth gorau posib i gleifion ein gwasanaeth. Mae hyfforddiant Kathryn i’w weld isod:

  • Rhaglen Addysg i Gleifion (EPP)
  • Rhaglen Hunan-reoli Afiechyd Cronig
  • Rhaglen Hunan-reoli Poen Gronig
  • Sgiliau Maeth am Oes Iechyd Cyhoeddus Cymru – Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol Lefel 2 
  • Rhaglen Atal Clefyd Cardiofasgwlar Momenta (CVD)
  • Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC)

I gysylltu â'ch hyfforddwr WISE, e-bostiwch: CTM.WISE@wales.nhs.uk


Dychwelyd at Proffiliau'r Hyfforddwyr Lles