Os ydych chi’n teimlo eich bod chi eisiau marw, mae'n bwysig dweud wrth rywun.
Mae cymorth a chefnogaeth ar gael nawr os oes eu hangen arnoch chi. Does dim rhaid i chi frwydro â theimladau anodd ar eich pen eich hun.
Ffoniwch linell gymorth
Mae'r llinellau cymorth yma sydd am ddim ar gael i helpu pan fyddwch chi'n teimlo'n isel neu'n anobeithiol. Oni bai ei fod yn dweud fel arall, maen nhw ar agor 24 awr y dydd, bob dydd. Gallwch chi hefyd ffonio'r llinellau cymorth yma i gael cyngor os ydych chi'n poeni am rywun arall.
Anfonwch neges i linell destun
Os dydych chi ddim eisiau siarad â rhywun dros y ffôn, mae'r llinellau testun yma ar agor 24 awr y dydd, bob dydd.
Llinell Destun Argyfwng Shout - i bawb
Tecstiwch "SHOUT" i 85258
YoungMinds Crisis Messenger – i bobl dan 19 oed
Tecstiwch "YM" i 85258
Siaradwch â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo
Gadewch i deulu a ffrindiau wybod beth sy'n digwydd gyda chi. Efallai y byddan nhw'n gallu cynnig cymorth a helpu i'ch cadw'n ddiogel. Does dim ffordd gywir nac anghywir o siarad am deimladau hunanladdol - dechrau'r sgwrs yw’r peth pwysig.
Pwy arall gallwch chi siarad â nhw
Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd siarad â rhywun rydych chi'n ei adnabod, fe allech chi:
Pwysig - Ydy eich bywyd mewn perygl?
Os ydych chi wedi niweidio eich hun yn ddifrifol - er enghraifft, drwy gymryd gorddos cyffuriau - neu os ydych chi'n teimlo eich bod ar fin niweidio eich hun, ffoniwch 999 am ambiwlans neu ewch yn syth i'r adran damweiniau ac achosion brys, neu gofynnwch i rywun arall ffonio 999 neu fynd â chi i'r adran damweiniau ac achosion brys.
Awgrymiadau ar sut i ymdopi nawr
I gael mwy o wybodaeth am Feddyliau am Hunanladdiad, ewch i wefan GIG 111 Cymru.
Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch CTM.WISE@wales.nhs.uk neu ffoniwch ni ar 01685 351 451. Ewch i'n gwefan: bipctm.gig.cymru/wise-ctm