Mae iselder yn fwy na dim ond teimlo’n anhapus neu wedi cael llond bol am ychydig ddyddiau.
Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael cyfnodau o deimlo'n isel, ond pan fydd iselder arnoch, byddwch yn teimlo'n drist yn gyson am wythnosau neu fisoedd yn hytrach nag am ychydig ddyddiau yn unig.
Mae rhai pobl yn meddwl mai rhywbeth pitw yw iselder o hyd ac nad yw’n gyflwr iechyd go iawn. Maen nhw'n anghywir. Mae iselder yn salwch go iawn a chanddo symptomau go iawn, ac nid yw’n arwydd o wendid neu rywbeth gallwch chi "ddod ohono" trwy "ddod atoch chi'ch hun".
Y newyddion da yw, gyda'r driniaeth a’r gefnogaeth gywir, gall y rhan fwyaf o bobl wella’n llwyr.
Sut ydych chi’n gwybod a oes iselder arnoch?
Mae iselder yn effeithio ar bobl mewn ffyrdd gwahanol ac fe all achosi amrywiaeth eang o symptomau.
Maen nhw'n amrywio o deimladau hirhoedlog o dristwch ac anobaith i golli diddordeb mewn pethau yr oeddech yn arfer eu mwynhau a theimlo’n ddagreuol iawn. Mae ar lawer o bobl ag iselder symptomau gorbryder hefyd.
Gall fod symptomau corfforol hefyd, fel teimlo’n flinedig yn gyson, cysgu'n wael, colli archwaeth at fwyd neu ryw, a chwyno am boenau amrywiol.
Mae symptomau iselder yn amrywio o'r ysgafn i'r difrifol. Ar ei ysgafnaf, efallai y byddwch yn teimlo’n isel eich ysbryd o hyd yn unig, ond ar ei waethaf gall iselder wneud i chi deimlo fel lladd eich hun ac nad yw bywyd yn werth ei fyw mwyach.
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn profi teimladau o straen, tristwch neu hwyliau isel yn ystod cyfnodau anodd. Gallai hwyliau isel wella ar ôl amser byr, yn hytrach na bod yn arwydd o iselder.
Pryd i weld meddyg
Mae’n bwysig eich bod yn ceisio cymorth gan eich meddyg teulu os ydych yn credu bod iselder arnoch.
Mae llawer o bobl yn aros am amser hir cyn ceisio cymorth ar gyfer iselder, ond mae’n well peidio ag oedi. Po gyntaf y gwelwch y meddyg, po gyntaf y byddwch yn dechrau gwella.
I gael rhagor o wybodaeth am Iselder, ewch i'n tudalen Lles Meddyliol, neu wefan GIG 111 Cymru.
Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch CTM.WISE@wales.nhs.uk neu ffoniwch ni ar 01685 351 451. Ewch i'n gwefan: bipctm.gig.cymru/wise-ctm