Ffibromyalgia

Ffibromyalgia

Mae Ffibromyalgia, sydd hefyd yn cael ei alw’n Syndrom Ffibromyalgia (FMS), yn gyflwr hirdymor sy'n achosi poen ym mhob rhan o'r corff.

Symptomau Ffibromyalgia

Yn ogystal â phoen dros ardal eang o’r corff, efallai y bydd gan bobl sydd â Ffibromyalgia y canlynol hefyd:

  • mwy o sensitifrwydd i boen
  • blinder eithafol
  • anystwythder yn y cyhyrau
  • anhawster cysgu
  • problemau gyda phrosesau meddyliol (a elwir yn "niwl ffibro"), fel problemau gyda'r cof a chanolbwyntio
  • cur pen
  • syndrom coluddyn llidus (IBS), cyflwr treulio sy'n achosi poen yn y stumog a chwyddo

Os ydych chi’n credu bod gennych chi Ffibromyalgia, ewch i weld meddyg teulu. Mae triniaeth ar gael i leddfu rhai o'i symptomau, er dydyn nhw ddim yn debygol o ddiflannu'n llwyr.

Sut mae Ffibromyalgia yn cael ei drin

Does dim modd gwella Ffibromyalgia yn llwyr ar hyn o bryd, ond mae triniaethau ar gael sy’n helpu i leddfu rhai o'r symptomau a gwneud y cyflwr yn haws i fyw ag ef.

Mae’r driniaeth yn tueddu i fod yn gyfuniad o’r canlynol:

  • meddyginiaeth, fel cyffuriau gwrth-iselder a phoenladdwyr
  • therapïau siarad, fel therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) a chwnsela
  • newidiadau ffordd o fyw, fel rhaglenni ymarfer corff a thechnegau ymlacio

Gwelwyd bod ymarfer corff yn arbennig yn cynnig nifer o fanteision pwysig i bobl sydd â Ffibromyalgia, gan gynnwys helpu i leihau poen.

Beth sy'n achosi Ffibromyalgia?

Dyw union achos Ffibromyalgia ddim yn hysbys, ond credir ei fod yn gysylltiedig â lefelau annormal o rai cemegau yn yr ymennydd a newidiadau yn y ffordd y mae'r system nerfol ganolog (yr ymennydd, llinyn y cefn a'r nerfau) yn prosesu negeseuon poen sy'n cael eu cludo o amgylch y corff.

Awgrymir hefyd fod rhai pobl yn fwy tebygol o ddatblygu Ffibromyalgia oherwydd genynnau y maen nhw wedi’u hetifeddu gan eu rhieni.

Mewn llawer o achosion, mae’n ymddangos bod y cyflwr yn cael ei sbarduno gan ddigwyddiad sy’n achosi straen corfforol neu emosiynol, fel:

  • anaf neu haint
  • rhoi genedigaeth
  • cael llawdriniaeth
  • perthynas yn chwalu 
  • marwolaeth anwylyd

I gael rhagor o wybodaeth am Ffibromyalgia, ewch i wefan GIG 111 Cymru. 

 


Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch CTM.WISE@wales.nhs.uk neu ffoniwch ni ar 01685 351 451. Ewch i'n gwefan: bipctm.gig.cymru/wise-ctm

Cofrestrwch ar gyfer Gwasanaeth WISE

Dychwelyd at Cyflyrau Iechyd