Neidio i'r prif gynnwy

Diabetes - Math 2

Diabetes - Math 2

Beth yw diabetes math 2?

  • Mae diabetes math 2 yn gyflwr cyffredin sy'n gwneud i lefel y siwgr (glwcos) yn y gwaed fynd yn rhy uchel.
  • Gall achosi symptomau fel syched gormodol, angen pasio dŵr yn aml a blinder. Hefyd, gall gynyddu'r risg y cewch broblemau difrifol gyda'ch llygaid, eich calon a'ch nerfau.
  • Mae'n gyflwr oes a all effeithio ar eich bywyd bob dydd. Gall fod angen i chi newid eich diet, cymryd meddyginiaethau a chael archwiliadau rheolaidd. 
  • Fe'i hachosir gan broblemau gyda chemegyn yn y corff (hormon) o'r enw inswlin. Yn aml, fe'i cysylltir â bod dros bwysau neu'n anweithgar, neu hanes teuluol o ddiabetes math 2.

Symptomau

Gwirio a oes gennych chi ddiabetes math 2 

Mae gan lawer o bobl ddiabetes math 2 heb sylweddoli hynny, gan nad yw'r symptomau o reidrwydd yn gwneud i chi deimlo'n sâl.

Mae symptomau diabetes math 2 yn cynnwys:

  • pasio dŵr yn fwy na'r arfer, yn enwedig yn y nos
  • teimlo'n sychedig drwy'r amser
  • teimlo'n flinedig iawn
  • colli pwysau heb geisio gwneud hynny
  • cosi o gwmpas y pidyn neu'r wain, neu gael y llindag yn aml 
  • toriadau neu glwyfau sy'n araf i wella
  • golwg aneglur

Mae mwy o risg datblygu diabetes math 2 arnoch: 

  • os ydych chi dros 40 oed (neu 25 oed yn achos pobl o dde Asia)
  • os oes gennych berthynas agos sydd â diabetes (fel rhiant, brawd neu chwaer)
  • os ydych chi dros eich pwysau neu'n ordew
  • os ydych chi o dras de Asiaidd, Tsieineaidd, Affricanaidd Caribïaidd neu Affricanaidd du (hyd yn oed os cawsoch eich geni yn y Deyrnas Unedig) 

Ewch i weld meddyg teulu:

  • os oes gennych unrhyw rai o symptomau diabetes math 2
  • os ydych chi'n pryderu bod mwy o risg i chi ei gael

Gall eich meddyg teulu wneud diagnosis o ddiabetes. Bydd angen prawf gwaed arnoch, efallai yn eich canolfan iechyd leol os na ellir ei wneud yn eich meddygfa.

Gorau po gyntaf y cewch ddiagnosis o ddiabetes a dechrau triniaeth ar ei gyfer. Mae triniaeth gynnar yn lleihau'r risg y cewch chi broblemau iechyd eraill.

I gael rhagor o wybodaeth am Diabetes - Math 2, ewch i wefan bipctm.gig.cymru/gwasanaethau/diabetes/ neu GIG 111 Cymru

 


Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch CTM.WISE@wales.nhs.uk neu ffoniwch ni ar 01685 351 451. Ewch i'n gwefan: bipctm.gig.cymru/wise-ctm

Cofrestrwch ar gyfer Gwasanaeth WISE

Dychwelyd at Cyflyrau Iechyd