Neidio i'r prif gynnwy

Clunwst

Clunwst

Clunwst yw pan fo'r nerf clunol, sy'n rhedeg o'ch cefn isaf i'ch traed, yn llidiog neu'n gywasgedig.  Fel arfer mae'n gwella ymhen 4 i 6 wythnos ond mae'n gallu para'n hirach.

Gwiriwch a oes gennych chi glunwst

Os oes gennych chi glunwst, efallai y bydd eich:

  • pen ôl
  • cefn eich coesau
  • traed a bysedd eich traed

yn teimlo:

  • yn boenus - gall fod yn boen trywanu, llosgi neu saethu
  • yn goslyd - fel pinnau bach
  • yn ddideimlad
  • yn wan

Efallai y bydd eich symptomau yn waeth wrth symud, tisian neu besychu. Efallai y bydd gennych chi boen cefn hefyd, ond dydy hyn ddim fel arfer cynddrwg â'r boen yn eich pen ôl, eich coesau neu eich traed. Os mai dim ond poen cefn sydd gennych chi, dim clunwst sydd gennych chi fwy na thebyg. 

Sut gallwch chi leddfu'r boen eich hun

Fel arfer bydd clunwst yn gwella ymhen 4 i 6 wythnos ond weithiau mae'n gallu para'n hirach. I helpu i leddfu eich poen a gwella’n gyflymach:

Dylech chi:

  • gario ymlaen â'ch gweithgareddau arferol cymaint â phosib
  • ymestyn y cefn yn rheolaidd
  • dechrau gwneud ymarfer corff ysgafn cyn gynted ag y gallwch - gall unrhyw beth sy'n gwneud i chi symud helpu
  • dal pecynnau gwres ar yr ardaloedd poenus - gallwch brynu'r rhain o fferyllfeydd
  • gofyn i'ch fferyllydd am boenladdwyr (dydy parasetamol ddim yn debygol o helpu a dydy e ddim yn glir faint mae NSAIDau yn helpu gyda chlunwst)
  • rhoi clustog fach, gadarn rhwng eich pengliniau wrth gysgu ar eich ochr, neu sawl gobennydd cadarn o dan eich pengliniau wrth orwedd ar eich cefn

Dylech chi DDIM:

  • eistedd na gorwedd am gyfnodau hir - hyd yn oed os yw symud yn brifo, dydy e ddim yn niweidiol ac fe all eich helpu i wella'n gyflymach
  • defnyddio poteli dŵr poeth i leddfu'r boen - fe allech chi sgaldio'ch hun os yw eich croen yn ddideimlad

Ewch i weld meddyg teulu:

  • os dydy’r boen ddim wedi gwella ar ôl rhoi cynnig ar driniaethau cartref am rai wythnosau
  • os yw’r boen yn mynd yn waeth
  • os yw’r boen yn eich atal rhag gwneud eich gweithgareddau arferol

I gael mwy o wybodaeth am glunwst, ewch i wefan GIG 111 Cymru

 


Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch CTM.WISE@wales.nhs.uk neu ffoniwch ni ar 01685 351 451. Ewch i'n gwefan: bipctm.gig.cymru/wise-ctm

Cofrestrwch ar gyfer Gwasanaeth WISE

Dychwelyd at Cyflyrau Iechyd