Neidio i'r prif gynnwy

Blinder

Pam ydw i wedi blino drwy'r amser?

Mae teimlo'n orluddedig [exhausted] yn beth mor gyffredin, fel bod ganddo ei acronym ei hun yn Saesneg, sef TATT, sy'n sefyll am ‘tired all the time’.

Rydyn ni i gyd yn teimlo'n flinedig o bryd i'w gilydd. Mae'r rhesymau fel arfer yn amlwg ac yn cynnwys:

  • gormod o nosweithiau hwyr
  • oriau hir yn y gwaith
  • babi yn eich cadw i fyny yn y nos

Ond nid yw blinder neu orludded sy'n para am amser hir yn normal. Gall effeithio ar eich gallu i fwynhau eich bywyd.

Blinder anesboniadwy yw un o'r rhesymau mwyaf cyffredin pam mae pobl yn gweld eu meddyg teulu.

I gael rhagor o wybodaeth am Blinder, ewch i wefan GIG 111 Cymru

 


Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch CTM.WISE@wales.nhs.uk neu ffoniwch ni ar 01685 351 451. Ewch i'n gwefan: bipctm.gig.cymru/wise-ctm

Cofrestrwch ar gyfer Gwasanaeth WISE

Dychwelyd at Cyflyrau Iechyd