Mae anhwylder affeithiol tymhorol (SAD) yn fath o iselder sy'n mynd a dod mewn patrwm tymhorol. Mae SAD weithiau'n cael ei adnabod fel "iselder y gaeaf" oherwydd bod y symptomau'n fwy amlwg ac yn fwy difrifol yn ystod y gaeaf. Efallai y bydd ambell un sy’n profi SAD yn cael symptomau yn ystod yr haf ac yn teimlo'n well yn ystod y gaeaf.
Symptomau SAD
Mae symptomau SAD yn gallu cynnwys:
I rai pobl, mae’r symptomau hyn yn gallu bod yn ddifrifol ac maen nhw’n gallu cael effaith sylweddol ar eu gweithgareddau o ddydd i ddydd.
Pryd i weld eich meddyg teulu
Dylech chi ystyried gweld eich meddyg teulu os ydych chi'n meddwl y gallai fod gennych chi SAD a'ch bod yn ei chael hi’n anodd ymdopi.
Gall eich meddyg teulu gynnal asesiad o’ch iechyd meddwl. Efallai y bydd yn gofyn i chi am eich hwyliau, eich ffordd o fyw, eich arferion bwyta a’ch patrymau cysgu, yn ogystal ag unrhyw newidiadau tymhorol yn eich meddyliau a'ch ymddygiad.
I gael mwy o wybodaeth am Anhwylder Affeithiol Tymhorol (SAD), ewch i wefan GIG 111 Cymru.
Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch CTM.WISE@wales.nhs.uk neu ffoniwch ni ar 01685 351 451. Ewch i'n gwefan: bipctm.gig.cymru/wise-ctm