Hoffai Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ar y cyd â’r Gwasanaeth Gwirfoddol arddangos cynllun peilot newydd a dweud diolch enfawr i’n holl Wirfoddolwyr yn yr Adran Argyfwng. Ymunodd y Gwasanaeth Gwirfoddol â’r Adran Argyfwng, Ysbyty Tywysoges Cymru ac ar ôl cymaint o ddiddordeb roedd yn falch o gael gwirfoddolwyr i ddechrau ar 23 Ebrill 2023. Mae’r gwirfoddolwyr yn darparu cefnogaeth i gleifion, teuluoedd a gofalwyr trwy:
Mae’r prosiect Gwirfoddoli yn yr Adran Argyfwng yn cael ei redeg fel peilot i ddechrau, er mwyn deall effaith cymorth gwirfoddolwyr a sut mae’n ymwreiddio o fewn yr adran. Y cynllun wrth symud ymlaen yw efelychu’r cymorth gwirfoddol ar draws Adrannau Argyfwng eraill. Unwaith eto, diolch yn fawr iawn i’n Gwirfoddolwyr yn yr Adran Argyfwng a’n Staff Argyfwng am eu cefnogaeth a’u hymroddiad parhaus i wneud hyn yn llwyddiant……