Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Tywysog Charles yn ennill gwobr cyfeillgar i fabanod

Mae Gwasanaeth Newydd-anedig Ysbyty'r Tywysog Charles wedi ennill y Wobr Cyfeillgar i Fabanod fawreddog a dyma'r cyfleuster gofal iechyd diweddaraf yn y DU i gael cydnabyddiaeth gan Bwyllgor y DU ar gyfer Menter Cyfeillgar i Fabanod UNICEF (UNICEF UK).

Dywedodd Dr Suzanne Hardacre, Cyfarwyddwr Bydwreigiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: "Mae'r wobr hon gan Fenter Cyfeillgar i Fabanod UNICEF UK yn adlewyrchiad o'n hymrwymiad diball i gynyddu cyfraddau bwydo ar y fron a gwella gofal i bob mam yn Ysbyty’r Tywysog Siarl.

Mae bwydo ar y fron yn amddiffyn babanod rhag ystod eang o afiechydon difrifol, gan gynnwys gastroenteritis a heintiau anadlol yn eu babandod, yn ogystal â chlefyd cardiofasgwlaidd, asthma, diabetes a gordewdra yn ddiweddarach mewn bywyd. Gwyddom hefyd fod bwydo ar y fron yn lleihau risg y fam o rai canserau, a'i fod yn cefnogi iechyd meddwl y fam a'r babi.

"Yng Nghwm Taf Morgannwg, aethom ati i sicrhau bod pob mam a babi yn cael cefnogaeth i ffurfio perthynas agos a chariadus - beth bynnag fo'u dewis o ddull bwydo - gan mai dyma'r dechrau gorau i bob babi."

Mae'r Fenter Cyfeillgar i Fabanod yn rhaglen fyd-eang sy'n ceisio trawsnewid gofal iechyd i fabanod, eu mamau a'u teuluoedd yn rhan o bartneriaeth fyd-eang ehangach rhwng UNICEF a Sefydliad Iechyd y Byd (WHO). Yn y DU, mae'r Fenter Cyfeillgar i Fabanod yn gweithio gyda gwasanaethau cyhoeddus i gefnogi teuluoedd yn well gyda bwydo a datblygu perthnasau agos, cariadus er mwyn sicrhau bod pob babi yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd. Rhoddir y wobr i'r Gwasanaeth Newydd-anedig yn Ysbyty'r Tywysog Charles ar ôl i asesiad gan dîm UNICEF UK ddangos bod safonau arfer gorau cydnabyddedig ar waith.

"Rydym wrth ein bodd bod yr Ysbyty wedi cyflawni statws llawn Cyfeillgar i Fabanod," meddai Dirprwy Gyfarwyddwr Rhaglen Menter Gyfeillgar i Fabanod UNICEF UK, Anne Woods. "Mae ein gwaith i gefnogi bwydo ar y fron yn seiliedig ar y dystiolaeth helaeth a chadarnhaol bod bwydo ar y fron yn achub bywydau ac yn gwella costau iechyd ym mhob gwlad ledled y byd, yn gyfoethog ac yn dlawd fel ei gilydd."

 

25/05/2023