Mae Ysbyty Brenhinol Morgannwg wedi nodi carreg filltir arwyddocaol ym maes ymchwil cardiaidd drwy recriwtio'r cleifion cyntaf yng Nghymru i'r treial ME-HF, astudiaeth arloesol sydd â'r nod o wella gofal i bobl sy'n byw gyda methiant y galon.
Mae'r treial ME-HF (sy’n sefyll yn Saesneg am “Monitoring oEdema in Heart Failure) i Wella Swyddogaeth a Lleihau'r Risg o Gael eich Derbyn i'r Ysbyty, sy'n cael ei noddi gan Heartfelt Technologies, yn ymchwilio i effeithiolrwydd systemau camera monitro cartref wrth nodi gwaethygu posibl methiant y galon trwy ganfod chwydd yn y coesau yn gynnar, er mwyn gwella canlyniadau i gleifion.
Mae'r tîm yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, dan arweiniad Uwch-nyrs Glinigol Arbenigol Methiant y Galon, Aimee Ibbotson, wedi recriwtio'r claf cyntaf yng Nghymru i'r treial, gan nodi carreg filltir arwyddocaol o ran ehangu'r astudiaeth y tu hwnt i Loegr.
Dywedodd Aimee: “Rydym yn falch iawn o recriwtio’r claf cyntaf i’r treial ME-HF yng Nghymru. Mae hyn yn nodi carreg filltir gyffrous a phwysig, ac mae'n tynnu sylw at ein hymrwymiad i ymgorffori ymchwil ar draws ein sefydliad, a'n penderfyniad i sicrhau bod y cymunedau a wasanaethwn yn cael y cyfle i ymgysylltu'n weithredol ag arloesiadau mewn gofal iechyd ac elwa ohonynt.”
Ers recriwtio’r cleifion cyntaf yng Nghymru, mae Ysbyty Tywysoges Cymru hefyd wedi recriwtio’n gryf i'r astudiaeth hon.
Pan fydd gan glaf fethiant y galon, gall achosi i'r corff gadw hylif yn aml, gan arwain at chwyddo yn y traed a'r coesau. Rydym eisoes yn deall y gallai amrywiadau mewn chwydd ddangos bod cyflwr claf yn gwaethygu, ond nod y treial hwn yw deall a all monitro'r newidiadau hyn yn agosach arwain at ymyrraeth gynharach a allai leihau'r angen i gael ei dderbyn i'r ysbyty.
Yn ganolog i'r astudiaeth mae'r defnydd o ddyfais Heartfelt Technologies, "sganiwr traed" digyswllt sy'n mesur chwydd yn awtomatig wrth i gleifion gerdded heibio. Mae'r ddyfais yn dal delweddau o'r traed a rhan isaf y coesau heb fod angen unrhyw fewnbwn â llaw, ac yn cael eu trosglwyddo'n ddiogel i'r tîm ymchwil, lle byddan nhw’n cael eu dadansoddi i olrhain newidiadau dros amser.
Os mae mwy o chwydd yn cael ei ganfod, gall y system gynhyrchu rhybuddion i hysbysu timau gofal iechyd, a allai ysgogi ymyrraeth glinigol gynharach. Mae ymchwilwyr yn asesu a all y dechnoleg hon ganfod chwydd yn ddibynadwy, ac a yw rhannu'r wybodaeth hon gyda thimau gofal yn gwella canlyniadau cleifion.
Dywedodd yr Athro John Geen, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil a Datblygu: “Mae’r cydweithrediad rhwng timau nyrsio methiant y galon yn Ysbytai Brenhinol Morgannwg a Thywysoges Cymru a Thîm Ymchwil a Datblygu Cwm Taf Morgannwg wedi bod yn allweddol i gynnydd y treial hwn. “
Mae ymrwymiad pawb a oedd yn rhan o’r astudiaeth wedi galluogi’r astudiaeth arloesol hon i fynd yn ei blaen. Mae'n wych gweld aelodau o'r proffesiwn nyrsio yn gweithredu fel Prif Ymchwilwyr yn y ddau safle. Drwy eu harweinyddiaeth ymchwil, mae'r Bwrdd Iechyd wedi gallu ymchwilio i fabwysiadu technoleg ddigidol newydd sydd â'r potensial i lywio llwybrau gofal methiant y galon yn y dyfodol. Mae'r dull hwn yn cefnogi ymyrraeth gynharach ac, yn y pen draw, canlyniadau gwell i gleifion sy'n byw gyda methiant y galon.”
Mae'r recriwtio cyntaf o Gymru, a recriwtio ychwanegol cryf o fewn CTM, yn nodi datblygiad addawol yn yr ymdrech i harneisio technoleg i ddarparu gofal iechyd mwy rhagweithiol ac ataliol i gleifion methiant y galon.