Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Brenhinol Morgannwg yw'r cyntaf yn GIG Cymru i ddefnyddio technoleg o'r radd flaenaf i geisio trechu clefyd y galon

Mae HeartFlow, Inc. ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn cydweithio er mwyn helpu clinigwyr i roi diagnosis i gleifion o un o’r pethau sy’n achosi’r mwyaf o farwolaethau yng Nghymru, sef clefyd coronaidd y galon. I nodi Mis Cenedlaethol y Galon, mae’r ysbyty yn codi ymwybyddiaeth o symptomau clefyd y galon ac yn defnyddio HeartFlow Analysis er mwyn helpu pobl leol i osgoi triniaethau mewnwthiol diangen.

Ysbyty Brenhinol Morgannwg yw’r ysbyty GIG cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu HeartFlow Analysis yn rhan o ddull sy’n defnyddio sgan CT yn gyntaf er mwyn rhoi diagnosis i gleifion o glefyd y galon. Ar gyfer y dull hwn, dim ond un ymweliad â’r ysbyty sydd ei angen, a hynny ar gyfer sgan CT anfewnwthiol. Mae HeartFlow Analysis yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cleifion addas, ac mae’r canlyniadau’n cael eu dychwelyd i Glinigwyr yn gyflym er mwyn gallu rhoi diagnosis o Glefyd Coronaidd y Galon. Yna, mae modd llunio cynllun rheoli personol o fewn dyddiau ar ôl cynnal y sgan CT cardiaidd. Mae cyflymder y diagnosis yn fantais enfawr yn ystod pandemig y Coronafeirws.

Sut mae’r dechnoleg yn gweithio?

Mae HeartFlow Analysis yn casglu data o sgan CT goronaidd ac yn defnyddio dysgu dwfn (math o ddeallusrwydd artiffisial) a dadansoddwyr helaeth eu hyfforddiant i greu model 3D personol, digidol o rydwelïau coronaidd cleifion. Mae ei halgorithmau yn datrys miliynau o hafaliadau er mwyn efelychu llif y gwaed yn rhydwelïau’r claf. Mae hyn yn helpu clinigwyr i asesu effaith unrhyw rwystrau sy'n atal llif y gwaed.

Mae’r dechnoleg unigryw hon yn galluogi clinigwyr i roi diagnosis cyflym o Glefyd Coronaidd y Galon a phenderfynu ar y driniaeth orau ar gyfer cleifion. Mewn nifer o achosion, bydd y wybodaeth sy’n cael ei darparu gan HeartFlow Analysis yn helpu meddygon i osgoi argymell triniaethau mewnwthiol diangen, sydd yn aml â risg o gymhlethdodau ynghlwm â nhw.

Dywedodd Gethin Ellis, sy’n Gardiolegydd Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:“Clefyd y galon yw un o’r heriau iechyd mwyaf yn ein cymuned, ac mae ein Gwasanaeth Cardioleg yn brysur. Mae defnyddio sgan CT gyda HeartFlow Analysis yn golygu bod modd i ni sicrhau atebion i'n cleifion yn gyflym, ac mewn nifer o achosion, helpu ein cleifion i osgoi triniaethau diagnostig mewnwthiol. Yn ystod Mis Cenedlaethol y Galon, rydyn ni’n annog pobl i roi sylw i’w calonnau eu hun, ac i ofyn am gyngor meddygol os oes symptomau o Glefyd Coronaidd y Galon gyda nhw. Ymhlith y symptomau cyffredin mae poen neu dyndra yn y frest, crychguriadau’r galon symptomatig a diffyg anadl gormodol, yn enwedig yn ystod gweithgareddau isel eu heffaith.”

Ychwanegodd Sally Bolt, sy’n Radiolegydd Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:“Rydyn ni’n falch mai ni yw’r safle GIG cyntaf yng Nghymru i gynnig y gwasanaeth soffistigedig hwn i’n cleifion. Mae gweithio gyda HeartFlow yn ein galluogi i nodi yn hyderus y cleifion hynny y gallwn eu trin â moddion yn unig. Yn ogystal â gwella profiad cleifion, mae hyn hefyd yn lleihau amseroedd aros ac yn ein helpu i flaenoriaethu archwiliadau pellach ar gyfer y bobl sydd eu hangen fwyaf. Mae defnyddio dull sy’n defnyddio sganiau CT ar gyfer diagnosis hefyd yn ein galluogi i leihau’r amser mae cleifion yn ei dreulio yn yr ysbyty. Mae hyn yn bwysig i’w ystyried yn ystod pandemig y Coronafeirws.”

Dywedodd Grant Griffiths, sy’n Radiolegydd Thorasig Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: "Gyda chymorth HeartFlow Analysis, rydyn ni’n gallu dweud wrth gleifion yn syth p'un a oes Clefyd Coronaidd y Galon gyda nhw ai peidio, p'un a ydy eu cyflwr yn gymedrol neu’n fwy difrifol, a ph'un a oes angen ymyriadau pellach arnyn nhw ai peidio. Rydyn ni’n aml yn gallu eu helpu nhw i osgoi triniaethau pellach ac yn gallu argymell cynlluniau triniaeth eraill ar eu cyfer. Mae hyn yn wych i gleifion, oherwydd gallan nhw osgoi triniaethau allai fod yn ddiangen ac yn beryglus.”

Dywedodd Lance Scott, sef Prif Swyddog Masnachol HeartFlow:“Mae’r pandemig byd-eang yn sicr wedi cynyddu’r galw am dechnolegau digidol sy’n gallu helpu gweithwyr meddygol proffesiynol gydag effeithlonrwydd a rhoi diagnosis o afiechydon. O ganlyniad i lwybr sgan CT HeartFlow, mae cleifion yn treulio llai o amser mewn ysbytai, mae eu profiad yn yr ysbyty wedi gwella a daw canlyniadau'n gyflymach.”

“Mae’r GIG yn parhau i arwain y byd ym maes diagnosis o Glefyd Coronaidd y Galon, sef un o’r pethau sy’n gyfrifol am y mwyaf o farwolaethau yn y wlad. Mae'n braf gennym ni weithio gydag Ysbyty Brenhinol Morgannwg er mwyn helpu i symleiddio profiad diagnostig cleifion, a lleihau nifer y triniaethau diangen. Gall cleifion gael diagnosis a chynllun triniaeth ar ôl un ymweliad yn unig â’r ysbyty, ac mae nifer ohonyn nhw'n mynd adref yn dawel eu meddwl gan wybod mai dim ond moddion sydd ei angen ar gyfer eu triniaeth."