Neidio i'r prif gynnwy

Ymweliad brenhinol ag uned famolaeth Merthyr Tudful

Cafodd Uned Famolaeth Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful ymweliad brenhinol heddiw gan Noddwr Coleg Brenhinol y Bydwragedd (RCM), Ei Huchelder Y Dywysoges Frenhinol.

Aeth Ei Huchelder Y Dywysoges Frenhinol ar daith o amgylch yr uned – sy’n rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg – a bu’n sgwrsio â bydwragedd, myfyrwyr bydwreigiaeth, aelodau o'r tîm amlbroffesiwn a merched a'u partneriaid. Ymwelodd y Dywysoges Frenhinol hefyd â'r gyd-uned dan arweiniad bydwreigiaeth a'r ystafell eni a chafodd glywed am waith gweithwyr cymorth mamolaeth, arwyr tawel y gwasanaethau mamolaeth.

Gyda hi ar yr ymweliad roedd Llywydd y Coleg Nyrsio Brenhinol, Rebeccah Davies, Prif Weithredwr RCM Gill Walton, a Chyfarwyddwr RCM Cymru, Julie Roberts. Roedd cynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd yn cynnwys y Cadeirydd Jonathan Morgan a'r Prif Weithredwr Paul Mears. Yn ddiweddar, mae’r Cyfarwyddwr Bydwreigiaeth, Dr Suzanne Hardacre, a oedd hefyd gyda’r Dywysoges Frenhinol, wedi derbyn Cymrodoriaeth glodfawr y RCM am ei chyfraniad i fydwreigiaeth.

Dywedodd Cyfarwyddwr RCM Cymru, Julie Richards: "Roedd hwn yn ddiwrnod bendigedig ac yn anrhydedd haeddiannol iawn i'r staff. Mae'n ddiwrnod fydd yn aros yn eu cof am amser maith. Roedd hefyd yn bleser brenhinol annisgwyl i’r menywod a’r teuluoedd yn yr uned gan nad oedden nhw’n disgwyl gweld un o brif aelodau'r Teulu Brenhinol yn dod tuag atyn nhw ac yn stopio i sgwrsio. Cafodd y tîm mamolaeth gyfle i ddweud wrth Y Dywysoges Frenhinol am y gwaith gwych maen nhw'n ei wneud yn yr uned i sicrhau bod menywod yn cael y gofal a'r dewisiadau gorau posib. Yn sicr roedd hwn yn uchafbwynt y flwyddyn i RCM Cymru, ac rwy'n siŵr i'r staff a'r rhieni hefyd."

Mae uned famolaeth Ysbyty'r Tywysog Siarl yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau geni i fenywod a phobl sy’n geni. Mae gan y brif ystafell eni 2 theatr obstetreg, chwe ystafell eni en-suite ac un pwll. Mae gan yr ysbyty gyd-uned bydwreigiaeth gyda 3 ystafell hefyd. Mae dros 4,500 o fabanod yn cael eu geni yn y bwrdd iechyd bob blwyddyn, a mwy na hanner ohonynt yn cael eu geni yn uned Merthyr. Mae uned newydd-anedig wedi’i lleoli yn yr ysbyty hefyd.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Bydwreigiaeth, Dr Suzanne Hardacre: "Mae'n fraint cael croesawu’r Dywysoges Frenhinol i'n Huned famolaeth yn Ysbyty'r Tywysog Siarl. Mae ein timau wedi gweithio drwy'r amgylchiadau mwyaf heriol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae'n anrhydedd fawr bod eu gwaith a'u cyflawniadau’n cael eu cydnabod drwy’r ymweliad hwn. Rwy'n gwybod bod cydweithwyr yn falch o'r cyfle i ddangos yr uned, y maen nhw mor falch ohoni, ac i siarad â’r Dywysoges Frenhinol am eu rolau unigol. Mae'n ddiwrnod y byddwn ni i gyd yn ei gofio."

Ar ddiwedd y daith dadorchuddiodd Y Dywysoges Frenhinol blac arbennig i goffáu ei hymweliad, a fydd yn cael ei arddangos yn yr uned.

 

03/04/2023