Neidio i'r prif gynnwy

Y Gweinidog Vaughan Gething yn ymweld ag Ysbyty'r Tywysog Siarl

Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIP CTM) mewn partneriaeth â Tilbury Douglas, prif gontractwr y rhaglen, a Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) yn falch iawn o groesawu Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, i safle Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful ddoe i weld sut mae'r rhaglen adnewyddu gwerth £260m yn yr Ysbyty yn dod yn ei flaen ac i glywed gan CITB am yr ymweliad 'drysau agored' cyntaf gan ysgol leol Afon Taf.

Rhoddodd y grŵp ddiweddariad ar gynnydd y rhaglen hyd yma ac yna cafwyd taith o amgylch y safle.

Dywedodd Jeremy Holifield, Swyddog Cyfrifol ar gyfer y rhaglen adnewyddu: “Mae’n galonogol iawn bod Gweinidog yr Economi, ar y cyd â Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu, wedi ymweld â’r rhaglen adnewyddu yn Ysbyty’r Tywysog Siarl i weld y gwaith da sy’n cael ei wneud gan Tilbury Douglas Construction Ltd i gyflwyno pobl i’r diwydiant. Rydyn ni’n gwerthfawrogi ei ddiddordeb parhaus, gan ei fod wedi comisiynu’r prosiect pan oedd yn Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gynt.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Ymgysylltu CITB ar gyfer Cymru, Julia Stevens: “Rydw i wedi mynychu’r ymweliad Drysau Agored y prynhawn yma ochr yn ochr â disgyblion o Ysgol Uwchradd Afon Taf. Roedd y daith o amgylch y safle yn wych ac fe wnaeth helpu'r myfyrwyr i ddeall y cyfleoedd sydd ar gael yn y diwydiant adeiladu. Mae’n bleser gan CITB gefnogi menter Build UK Open Doors i annog y genhedlaeth nesaf o weithwyr i’r diwydiant.”

 

17/03/2023