Yr wythnos hon yw Wythnos Ymwybyddiaeth Sgrinio Serfigol; atgof blynyddol o bwysigrwydd sgrinio serfigol wrth atal canser ceg y groth.
Mae bron pob achos o ganser ceg y groth yn cael ei achosi gan fathau risg uchel o'r Feirws Papiloma Dynol, a elwir hefyd yn HPV. Gall y firws achosi newidiadau celloedd dros amser, a all arwain at ganser ceg y groth os na chaiff ei drin. Gall dod o hyd i newidiadau i gelloedd yn gynnar atal canser ceg y groth rhag datblygu.
Gall sgrinio rheolaidd leihau'r risg o gael canser ceg y groth 70%. Bydd pobl sydd â serfics yn cael eu gwahodd i gael sgrinio serfigol bob 5 mlynedd rhwng 25 a 64 oed.
Eich dewis chi yn llwyr yw mynychu eich sgrinio serfigol, ond mae'n hynod bwysig wrth wirio am newidiadau celloedd a monitro iechyd serfics.
Os ydych chi wedi cael gwahoddiad i gael eich sgrinio ac yn ansicr beth i'w ddisgwyl, mae'r nyrsys practis Rosalie a Rachel wedi egluro popeth mewn cyfres o fideos y byddwn ni'n eu rhannu'r wythnos hon. Maen nhw'n trafod sut mae'r prawf yn cael ei gynnal, beth mae nyrsys yn chwilio amdano, a sut maen nhw'n helpu i sicrhau eich bod chi'n teimlo mor gyfforddus â phosibl yn ystod eich apwyntiad, a hynny i gyd wrth esbonio mwy am HPV a beth allai eich canlyniadau ei olygu.
Os ydych chi wedi derbyn gwahoddiad i gael sgrinio serfigol, mae'n bwysig trefnu’r apwyntiad. Os ydych chi wedi methu un, gallwch chi gysylltu â'ch meddygfa o hyd i'w drefnu.
I gael rhagor o wybodaeth am sgrinio serfigol, ewch i'r dudalen we hon: Sgrinio Serfigol - Iechyd Cyhoeddus Cymru
15/06/2026