Eleni bydd seithfed Wythnos Ymwybyddiaeth Diffyg Maeth y DU - #UKMAW2024.
Beth yw Wythnos Ymwybyddiaeth o Ddiffyg Maeth?
Cyd-sefydlwyd UKMAW yn 2018 gan y Tasglu Diffyg Maeth (MTF) a BAPEN i godi ymwybyddiaeth a deall risgiau diffyg maeth y gellir ei atal.
Ydy diffyg maeth yn broblem yn y DU?
Mae tua 3 miliwn o bobl yn y DU yn dioddef o ddiffyg maeth neu mewn perygl o ddioddef diffyg maeth, gan gynnwys un o bob deg o bobl dros 65 oed.
Beth yw’r arwyddion o ddiffyg maeth?
Yr arwydd mwyaf cyffredin y gall rhywun fod mewn perygl o ddiffyg maeth yw colli pwysau yn anfwriadol (heb geisio) yn ystod y 3-6 mis diwethaf, er y gall arwyddion eraill gynnwys: cyhyrau gwan, teimlo'n flinedig, hwyliau isel a chynnydd mewn salwch neu haint.
Pwy sydd mewn perygl o ddiffyg maeth?
Gall rhai pobl fod yn fwy tebygol o ddioddef diffyg maeth, gall hyn gynnwys bod yn hŷn, bod yn ynysig ac yn unig neu fod â chyflyrau iechyd fel diabetes, pwysedd gwaed uchel, angina, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) a chyflyrau poen cronig fel arthritis. Yn ystod salwch yn aml nid ydym yn teimlo fel bwyta cymaint ag arfer a gall hynny olygu ein bod yn colli pwysau.
Sut gall diffyg maeth effeithio ar rywun?
Gall diffyg maeth effeithio ar iechyd a lles, ac achosi problemau iechyd hirdymor i bobl hŷn iach ac annibynnol fel arall. Gall hefyd olygu mwy o ymweliadau â’r meddyg teulu, mwy o siawns o gael eich derbyn i’r ysbyty a chymryd mwy o amser i wella o salwch.
Beth gaf i ei wneud?
GOFYN – Os ydych yn gwybod y gallai rhywun fod mewn perygl o ddioddef diffyg maeth, peidiwch â bod ofn gofyn i’r person am ei archwaeth a’i gallu i fwyta a pharatoi bwyd.
EDRYCH – Byddwch yn wyliadwrus am arwyddion o ddiffyg maeth a cholli pwysau, a allai gynnwys dillad, gwregysau, modrwyau neu ddannedd gosod mwy llac.
GWRANDO – Gwrandewch am unrhyw gliwiau nad yw rhywun yn gofalu am ei hunain cystal ag y gall. Gallai hyn gynnwys sôn am deimlo’n drist, yn unig neu golli diddordeb mewn pethau a fyddai fel arfer yn rhoi pleser iddo.
Dylai unrhyw un sy'n dangos arwyddion o ddiffyg maeth siarad â'i meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth o'r ffynonellau canlynol:
11/11/2024