Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos nes bod holl diroedd yr ysbyty yn dod yn ddi-fwg

Mae pobl sy'n byw ar draws ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn cael eu hatgoffa bod heddiw yn nodi un wythnos yn unig nes bod tir ysbytai'n dod yn ddi-fwg.

Bydd deddfau newydd, a gyflwynir ledled Cymru ar 1st Mawrth, yn adeiladu ar y gwaharddiad ysmygu a gyflwynwyd yn 2007, gan amddiffyn mwy o bobl rhag mwg ail-law niweidiol a helpu'r rheiny sydd am roi'r gorau iddi.

Mae'r ddeddf newydd yn golygu y bydd pob rhan o dir ysbytai'n ddi-fwg. Gallai unrhyw un sy’n cael ei weld yn torri'r gyfraith trwy ysmygu ar dir ysbytai wynebu dirwy o £100.

Dywed Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd, Kelechi Nnoaham, “Bydd atal bobl rhag ysmygu ar dir ein hysbytai'n hyrwyddo amgylcheddau gofal iachach, yn diogelu defnyddwyr ysbytai rhag mwg ail-law niweidiol, ac yn cefnogi'r rheiny sy'n defnyddio gwasanaethau'r GIG i roi'r gorau i ysmygu.”

Mae llawer o ysmygwyr eisoes wedi cael eu hysgogi i roi'r gorau i ysmygu o ganlyniad i’r pandemig COVID-19, a'r gobaith yw y bydd y ddeddfwriaeth newydd hon yn annog hyd yn oed mwy o bobl i wneud hynny. Y ffordd orau o roi'r gorau i ysmygu am byth yw trwy dderbyn cymorth wrth ei wneud.

Mae'r deddfau newydd hefyd yn cynnwys mannau lle mae plant a phobl ifanc yn treulio eu hamser – fel tir ysgolion a meysydd chwarae cyhoeddus, yn ogystal ag ardaloedd awyr agored mewn lleoliadau gofal dydd a gwarchod plant. 

Bydd creu mwy o leoedd di-fwg yng Nghymru yn dad-normaleiddio ysmygu ac yn lleihau’r tebygrwydd y bydd plant a phobl ifanc yn dechrau ysmygu yn y lle cyntaf - budd enfawr i'r genhedlaeth nesaf.

"Gwyddom am y niwed y gall ysmygu ei wneud i'n hiechyd, felly edrychaf ymlaen at dderbyn cefnogaeth ein staff, cleifion ac ymwelwyr, i sicrhau ein bod ni i gyd yn gwneud ein rhan wrth greu Cymru iachach i'r dyfodol," ychwanega Dr Nnoaham.

Anogir y rheiny sydd am roi'r gorau i ysmygu i ddefnyddio gwasanaeth cymorth am ddim GIG Cymru, Helpwch Fi i Stopio, ar 0800 085 2219 neu www.helpafiistopio.cymru er mwyn cael cymorth a chefnogaeth, gan gynnwys mynediad at feddyginiaeth am ddim i'ch helpu i roi'r gorau i ysmygu.