Wedi’i lansio ym mis Ebrill 2023, dechreuodd Rhaglen PIPYN fel rhaglen beilot ym Merthyr Tudful, gan helpu i hyrwyddo ffyrdd iach o fyw ac i gefnogi plant a theuluoedd i fyw bywydau iachach a mwy actif.
Bellach yn rhedeg ym Merthyr Tudful, Rhondda a Thaf Elái, mae'r tîm PIPYN yn gweithio gyda phlant rhwng 3 a 7 oed gan helpu eu teuluoedd i gael cymorth am ddim a gwybodaeth sy'n cynnwys bwyta'n iach, bwyta ffyslyd, cynnwys plant mewn amser bwyd, awgrymiadau ar gyfer rheoli amser sgrin, arferion cysgu, goginio ar gyllideb, sgiliau coginio a llawer mwy.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae rhaglen PIPYN wedi bod yn llwyddiant enfawr, gan weithio gyda dros 250 o deuluoedd a chyflwyno dros 400 o sesiynau.
Mae'r defnyddwyr gwasanaeth wedi gweld PIPYN yn hynod ddefnyddiol.
Dywedodd un rhiant “Mae'r sesiynau hyn wedi bod yn anhygoel o ran sut mae [fy merch] yn meddwl am fwyd…beth sy'n mynd i mewn i bryd o fwyd. Allwn i ddim rhoi’r un profiad hwnnw.”
Dywedodd rhiant arall: “Rydyn ni wedi bod yn dod i PIPYN bob wythnos…ac rydyn ni wedi caru pob munud ohono. Mae [fy merch] wrth ei bodd yn coginio a rhoi cynnig ar fwydydd newydd, sydd wedi bod yn help enfawr i mi.”
Dywedodd Lisa Sheehan, Ymarferydd Cynorthwyol Dieteg, “Rydym wrth ein bodd bod PIPYN wedi bod mor llwyddiannus. Mae PIPYN yn cydweithio â phartneriaid lleol i gynnig cymorth wedi’i deilwra, am ddim i’n teuluoedd. Mae'r sesiynau a’r adnoddau yn rhoi'r offer iddyn nhw wneud newidiadau cadarnhaol. Rydyn ni'n cael llawer o adborth bod y plant yn ei fwynhau ond hefyd sut mae'r rhieni/gofalwyr wir yn gwerthfawrogi treulio'r amser hwn fel teulu, yn dysgu a chael hwyl gyda'i gilydd.
Mae’n amlwg o’r adborth a’r tystebau gan rieni a defnyddwyr gwasanaethau bod y cymorth, y wybodaeth a’r sesiynau rhad ac am ddim rydym yn eu darparu yn cael effaith wirioneddol a chadarnhaol iawn ar Gymuned Merthyr, Rhondda a Thaf Elái.”
Gallwch ddarganfod mwy am y rhaglen PIPYN yma: PIPYN - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Os hoffech wybod mwy am sut y gall eich teulu fanteisio ar y sesiynau teulu rhad ac am ddim hyn, gallwch gofrestru yma: Ffurflen Cofrestru PIPYN
Gallwch gysylltu â thîm PIPYN drwy ffonio 01685 351293
neu e-bostio: CTM.PIPYN@wales.nhs.uk
Gallwch hefyd ddarganfod beth mae tîm PIPYN wedi bod yn ei wneud trwy ymweld âFacebook Merthyr PIPYNneuFacebook PIPYN Rhondda a Taff Ely.
14/01/2025