Neidio i'r prif gynnwy

Unedau Symudol Sgrinio'r Fron newydd yn ardal Pen-y-Bont

Mae dwy uned symudol newydd ar gyfer sgrinio'r fron bellach wedi'u lleoli yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr; un yng nghanolfan siopa McArthur Glen a'r llall ym Mhwll Nofio Canolfan Hamdden Halo ym Mhencoed.

Mae'r gwasanaeth sgrinio cenedlaethol yn gwahodd menywod sy'n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac y mae’n bryd iddyn nhw gael eu sgrinio, i fynychu eu hapwyntiad yn y naill uned neu’r llall.

Mae Bron Brawf Cymru yn defnyddio unedau sgrinio symudol ar gyfer sgrinio'r fron, sydd mor bwysig oherwydd gall mamogram helpu i nodi canserau pan fyddan nhw’n rhy fach i'w gweld neu eu teimlo, gan arwain at driniaeth gynharach.

Bydd yr unedau symudol ym Mhen-y-bont ar Ogwr tan fis Awst eleni.

Ar y cyd â Bron Brawf Cymru, rydyn ni wedi datblygu adnoddau i gynyddu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o sgrinio'r fron ac annog menywod ym Mhen-y-bont ar Ogwr i ddefnyddio'r gwasanaeth cymorth sgrinio hwn. Os hoffech chi ddarllen mwy, gallwch chi fynd i wefan Bron Brawf Cymru yma - Sgrinio'r fron - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Yn ddiweddarach eleni, bydd yr unedau symudol sgrinio'r fron yn symud o amgylch ardaloedd eraill ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac ardal ehangach Cwm Taf Morgannwg.

Efallai na fyddwch yn derbyn eich gwahoddiad cyntaf pan fyddwch yn 50 oed.  Rydym yn gwahodd menywod yn seiliedig ar bryd y bydd practis eu meddyg yn cael ei sgrinio.  Cewch wahoddiad ar gyfer sgrinio cyn eich pen-blwydd yn 53 oed.

Mae mwy o fanylion am eich gwahoddiad i weld yma - Eich gwahoddiad - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am sgrinio'r fron, cysylltwch â Bron Brawf Cymru ar 029 2039 7222 neu BTWSouthScreening@wales.nhs.uk.

Cwestiynau Cyffredin - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Mae tîm iechyd cyhoeddus yn cynnal arolwg ar sgrinio'r fron, gallwch cwblhau can clicio'r linc yma - https://www.smartsurvey.co.uk/s/OBYQDF/

 

 

16/02/2023