Neidio i'r prif gynnwy

Un Sgwrs Ystyrlon 

Thema Wythnos Cynllunio Gofal y Dyfodol eleni yw Un Sgwrs Ystyrlon. 

Mae cynllunio gofal ar gyfer y dyfodol yn ymwneud â meddwl ymlaen llaw a siarad am y math o ofal a chymorth y byddech chi eisiau yn y dyfodol, yn enwedig pe byddech chi'n mynd yn sâl ac mewn sefyllfa lle na fyddech chi’n gallu cyfathrebu’r dymuniadau hynny. 

 Dydy’r sgyrsiau hyn ddim angen bod yn ffurfiol na brawychus. Yn aml, maen nhw’n dechrau gyda chwestiwn syml, paned o de, a rhywun yn cymryd yr amser i wrando. 

Yng Nghwm Taf Morgannwg, rydym wedi ymrwymo i ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar beth sydd bwysicaf i bobl. Mae Cynllunio Gofal y Dyfodol yn cefnogi hyn drwy helpu unigolion i rannu eu dymuniadau, eu gwerthoedd a'u dewisiadau, gan sicrhau bod eu llais yn parhau i fod yn ganolog i benderfyniadau am eu gofal. 

Trwy gydol yr wythnos, bydd ein Nyrsys Arbenigol Cynllunio Gofal y Dyfodol yn ymweld ag ysbytai, lleoliadau cymunedol, llyfrgelloedd, cartrefi gofal a lleoliadau gofal iechyd ledled Cwm Taf Morgannwg i annog sgyrsiau gyda staff, cleifion, teuluoedd a chymunedau. 

Cael sgwrs gyda ni 

P'un a ydych yn ystyried eich gofal eich hun yn y dyfodol, yn cefnogi rhywun annwyl, neu os ydych yn syml eisiau dysgu mwy, rydym yn eich gwahodd i ddod draw a chael sgwrs gyda ni. 

Mae pob sgwrs ystyrlon yn ein helpu i ddeall yn well beth sy'n bwysig i bobl, gan gefnogi gofal mwy personol a gwneud penderfyniadau gwybodus. 

Oherwydd gall un sgwrs ystyrlon heddiw helpu sicrhau bod eich dymuniadau yn cael eu deall yfory. 

Ble i ddod o hyd i ni 

📍 Parc Iechyd Keir Hardie, Merthyr - 29 Mehefin, 10am - 4pm 

📍 Llyfrgell Pontypridd - 30 Mehefin, 9am - 12pm 

📍 Cynon LINC, Aberdâr - 30 Mehefin, 10am - 4pm 

📍 Ysbyty Cwm Rhondda - 2 Gorffennaf, 9am - 3pm 

📍 Ysbyty Cwm Cynon - 2 Gorffennaf, 10yb - 4yp 

📍 Ysbyty Dewi Sant - 3 Gorffennaf, 9am - 3pm 

📍 Bore Coffi Cartref Preswyl Bryn Y Cae - 3 Gorffennaf 

Rydyn ni’n edrych ymlaen at gwrdd â staff, cleifion, teuluoedd a chymunedau drwy gydol yr wythnos. 

 

Cysylltwch â'r tîm 

Os hoffech chi siarad ag aelod o dîm Cynllunio Gofal y Dyfodol, anfonwch e-bost at CTT_FCP@wales.nhs.uk