Neidio i'r prif gynnwy

Uchafbwyntiau Wythnos yr Hinsawdd Cymru yn CTM


Yr wythnos hon yw Wythnos yr Hinsawdd Cymru a thrwy gydol yr wythnos rydym wedi bod yn arddangos sut yr ydym ni, fel sefydliad, yn cefnogi'r agenda gwyrdd drwy gydymffurfio â gwastraff a chyflawni ein targedau di-garbon Cymru CTM.

Mae ein timau wedi bod yn cynnal sioeau teithiol gwastraff ac ymwybyddiaeth o'r amgylchedd drwy gydol yr wythnos, lle mae mwy na 200 o bobl wedi dangos diddordeb yn y gwaith sy'n digwydd yma yn CTM.

Dangoswyd llawer o ddiddordeb mewn ailgylchu batris, cwpanau coffi, pecynnu bwyd ac mewnanadlyddion, ac mae wedi bod yn gyffrous clywed bod pobl yn awyddus i gymryd rhan.

Os nad ydych wedi gweld ein herthyglau wedi'u harddangos yr wythnos hon, ewch i'n tudalen we CTM, neu os hoffech wybod mwy, galwch heibio i un o'r sioeau teithiol sy'n rhedeg am wythnos arall. 

Diolch am eich cefnogaeth, nid dim ond yr wythnos hon, ond bob dydd!

Byddwch yn dod o hyd i'r tîm yn y dyddiadau a'r lleoliadau fel yr isod:

  • Ysbyty Tywysoges Cymru, Dydd Iau, 07/12/2023 10yb - 2yp
  • Parc Iechyd Keir Hardie, Dydd Gwener, 08/12/2023 10yb - 2yp
  • Ysbyty Cwm Cynon,  Dydd Llun 11/12/2023 10yb - 2yp
  • Ysbyty’r Tywysog Siarl, Dydd Mawrth 12/12/2023 10yb - 2yp
  • Ysbyty Cwm Rhondda,  Dydd Mercher 13/12/2023 10yb - 2yp
  • Parc Iechyd Dewi Sant, Dydd Gwener 15/12/2023 10yb - 2yp

08/12/2023