Mae Byrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Caerdydd a'r Fro ac Aneurin Bevan wedi cael eu llongyfarch gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd am eu cyfraniad at dreial ymchwil EVOCC.
Mae'r treial ymchwil yn asesu a yw llawdriniaeth 'lleiaf ymledol' yr un mor effeithiol, neu'n fwy effeithiol na llawdriniaeth agored draddodiadol ar gyfer ailfasgwlareiddio.*
*Mae ailfasgwlareiddio yn driniaeth feddygol sy'n adfer llif y gwaed pan fydd rhydwelïau neu wythiennau wedi'u blocio neu eu culhau.
Ariannwyd yr astudiaeth gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) a noddwyd gan Brifysgol Leicester. Gallai wella triniaeth i bobl â rhydwelïau wedi'u blocio neu wedi'u culhau. Mae hyn yn arwyddocaol oherwydd bod Clefyd Rhydweli Ymylol (PAD) ar hyn o bryd yn effeithio ar un o bob pump o bobl dros 55 oed yn y DU.
"Mae astudiaeth EVOCC yn bwysig gan y bydd yn ein galluogi i ddeall a yw datblygiadau mewn technegau a thechnoleg yn trosi yn ganlyniadau gwell i gleifion o ran achub aelodau, goroesiad ac ansawdd bywyd," meddai Lewis Meecham, Llawfeddyg Fasgwlaidd Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
Cafodd y tri Bwrdd Iechyd eu cydnabod am eu gwaith cydweithredol ar yr astudiaeth gan yr Athro Athanasios Thanos Saratzis, Athro Ymchwil NIHR ac Athro Llawfeddygaeth Fasgwlaidd, a Phrif Ymchwilydd ar gyfer Treial EVOCC .
" Mae'r lefel hon o gydweithrediad traws-safle yn hanfodol ar gyfer llwyddiant treialon aml-ganolfan fel EVOCC. Mae’r "ymdrechion ar y cyd hyn yn allweddol wrth hyrwyddo ymchwil fasgwlaidd yng Nghymru," meddai'r llythyr gan yr Athro Saratzis,
“Dros y saith mis diwethaf, mae’r tîm wedi sicrhau saith o gleifion a ddewiswyd ar hap ar gyfer y treial EVOCC—lefel eithriadol o recriwtio cyson. Mae'r perfformiad hwn yn arbennig o drawiadol o ystyried yr hinsawdd ymchwil genedlaethol bresennol, lle mae cyfyngiadau o ran capasiti a chyllid prin yn parhau i herio’r broses o gyflwyno treialon ar draws y GIG.” - parhaodd yr Athro Saratiz.
Dywedodd Huw Davies, Llawfeddyg Fasgwlaidd Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: 'Mae gweithio mewn rhwydwaith cymhleth gyda threfniant prif ganolfan a lloerennau wedi golygu bod angen i'r timau ymchwil ar draws 3 bwrdd iechyd gydweithio a chroesbeillio i gyflawni proses recriwtio a dilyniant rhagorol ar gyfer treialon, sydd wedi cael ei gydnabod gan Brif Ymchwilydd y treial.' Rydym wedi gweithio'n wych fel tîm i gyflawni'r ymchwil hon ac yn edrych ymlaen at gryfhau ein rhwydweithiau ymhellach dros y misoedd nesaf.
Am ragor o wybodaeth am yr astudiaeth gallwch wylio fideo o'r Athro Thanos yma: Arloesi: Diweddariad Treial EVOCC Tachwedd 2025