Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Radioleg yn derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol

Mae Tîm Adrodd Radioleg CTM wedi'i ddewis fel Tîm y Flwyddyn Cymdeithas a Choleg Radiograffwyr Cymru 2023.

Wrth wneud diagnosis o ganser yr ysgyfaint, mae'r tîm wedi cyflwyno Pelydrau-X y frest a gyfeiriwyd gan feddyg teulu gydag adroddiadau 'poeth' yr un diwrnod gan arwain at ddiagnosis a thriniaeth gyflymach i gleifion.

Mae'r fenter yn cynnwys cydweithrediad amlddisgyblaethol rhwng y tîm radioleg, gan gynnwys radiograffwyr, adrodd radiograffwyr, radiolegwyr a staff cymorth yn ogystal â meddygon a nyrsys arbenigol canser yr ysgyfaint. 

Cafodd y prosiect arloesol hwn ei gychwyn, ei brofi a'i addasu yn ystod y pandemig, sy'n dangos penderfyniad a gwytnwch mawr y staff dan sylw yn ystod cyfnod hynod heriol.

Bydd yr enwebiad nawr yn mynd ymlaen i gael ei farnu ar gyfer y wobr gyffredinol yn y DU, a gynhelir yn Llundain ar 8 Tachwedd eleni.

 

11/10/2023