Neidio i'r prif gynnwy

Technoleg robotaidd chwyldroadol i drawsnewid llawdriniaeth yn CTM

Cyn bo hir bydd robotiaid llawfeddygol o’r radd flaenaf yn helpu i drin cleifion canser y colon a’r rhefr a chleifion gynaecolegol yng Nghwm Taf Morgannwg fel rhan o’r Rhaglen Llawdriniaeth drwy Gymorth Robot newydd.

Mae’r Bwrdd Iechyd bellach yn rhan o’r Rhaglen Genedlaethol Llawdriniaeth drwy Gymorth Robot, sy’n gwella canlyniadau i gleifion canser drwy gynyddu nifer y cleifion ledled Cymru sy’n gallu cael llawdriniaethau mynediad lleiaf ymyrrol.

Mae llawdriniaeth mynediad lleiaf ymyrrol yn cynnig manteision cydnabyddedig i gleifion, o gymharu â llawdriniaeth agored, gan gynnwys llai o boen, creithiau ac amser gwella.

Mae’r Rhaglen yn cael ei chefnogi ledled Cymru gan £4.6m gan gyllid Llywodraeth Cymru ac mae wedi’i datblygu gan fyrddau iechyd, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a Menter Canser Moondance.

Mae robot partner y diwydiant CMR Surgical o’r enw ‘Versius’ yn galluogi llawfeddygon i berfformio triniaethau cymhleth yn fanwl gywir, gyda'r llawfeddyg yn gweithredu pedair braich robotaidd o gonsol annibynnol, agored.

Dywedodd y llawfeddyg ymgynghorol Paul Blake, sef yr arweinydd clinigol ar gyfer y rhaglen yn CTM: “Mae hwn yn gyfle gwych a chyffrous iawn i ddarparu’r llawdriniaeth mynediad lleiaf ymyrrol mwyaf modern a datblygedig i’r bobl sy’n byw yn rhanbarth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. 

“Bydd llawdriniaeth robotaidd yn caniatáu i ni wneud llawdriniaeth ar ein cleifion gyda mwy fyth o fanylder a chraffter golwg, gan wella canlyniadau canser wrth leihau poen ar ôl llawdriniaeth a hyd arhosiad yn yr ysbyty. 

“Bydd cael llawdriniaeth robotaidd yn ein Bwrdd Iechyd yn ein helpu i ddenu’r gorau oll o gydweithwyr llawfeddygol a nyrsio i weithio yma gyda ni, a fydd unwaith eto o fudd enfawr i’r cleifion rydym yn eu gwasanaethu. 

“Rwy’n falch o fod yn rhan o’r datblygiad anhygoel hwn ac yn edrych ymlaen yn fawr at weld y buddion a ddaw yn sgil hyn i’r bobl sy’n cael llawdriniaethau.”

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn ymuno â Byrddau Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Besti Cadwaladr sydd, fel rhan o’r rhaglen, wedi bod yn defnyddio roboteg i drin cleifion canser y colon a’r rhefr a chleifion gynaecolegol dros y flwyddyn ddiwethaf.

Dywedodd prif glinigwr y rhaglen genedlaethol, Jared Torkington: "Mae Cymru yn symud ymlaen tuag at raglen robotig unedig ar draws ei holl ysbytai i ddarparu'r safon uchaf bosibl o ofal llawfeddygol ac i ddenu a chadw'r bobl orau i weithio yn y GIG yng Nghymru. Mae'r cyhoeddiad hwn yn newyddion gwych i staff a chleifion Cwm Taf Morgannwg ac mae'n cryfhau ymhellach Raglen Llawfeddygaeth â Chymorth Roboteg Cymru Gyfan."

 

21/08/2023