Neidio i'r prif gynnwy

Swydd wag ar gyfer Cadeirydd newydd i FWRDD CTM UHB

Rydym yn chwilio am Gadeirydd newydd i arwain ein Bwrdd.

Mae'r Cadeirydd yn atebol i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am berfformiad y Bwrdd a'i lywodraethu effeithiol. Maen nhw hefyd yn gyfrifol am gynnal gwerthoedd y GIG, a hyrwyddo hyder y cyhoedd a phartneriaid drwy ardal y Bwrdd Iechyd.

Bydd disgwyl i'r Cadeirydd ddangos safonau uchel o ymddygiad corfforaethol a phersonol a gofynnir i'r ymgeisydd llwyddiannus danysgrifio'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau Cyrff Cyhoeddus y Bwrdd.

Mae mwy o fanylion, gan gynnwys y swydd ddisgrifiad, i'w gweld ar wefan Apwyntiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru yma.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 4pm ar Hydref 24ain.

Bydd y cyfweliadau yn cael eu cynnal rhwng Tachwedd 30ain a Rhagfyr 2il.