Ddydd Iau 19 Ionawr 2023, bydd yr undeb llafur sy'n cynrychioli staff Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn cymryd camau gweithredu diwydiannol. Bydd y camau hyn yn cael effaith sylweddol ar allu’r gwasanaeth ambiwlans i ymateb i alwadau.
Yn anochel, bydd tarfu ar wasanaethau gofal iechyd, a gofynnir i bawb ddefnyddio Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn ofalus ar yr adeg anodd hon.
Dim ond os yw rhywun yn ddifrifol wael neu wedi'u hanafu'n ddifrifol a bod perygl i fywyd y dylid ffonio 999. Bydd ambiwlansys yn dal i allu ymateb yn y sefyllfaoedd hyn, ond efallai mai dim ond pan fydd perygl uniongyrchol i fywyd y byddan nhw’n gallu gwneud hyn. Mae’n debygol mai dim ond salwch neu anafiadau sy’n bygwth bywyd fydd yn derbyn ymateb brys yn ystod y streic ac efallai y gofynnir i rai cleifion wneud trefniadau eraill, fel gwneud eu ffordd eu hunain i’r ysbyty. Cysylltwyd yn uniongyrchol â chleifion y bydd y streic yn effeithio ar eu hapwyntiadau a drefnwyd ymlaen llaw.
Ar gyfer cleifion sydd angen cymorth a gofal iechyd:
- Ewch i wefan GIG 111 Cymru GIG 111 Cymru yn y lle cyntaf i gael cyngor a gwybodaeth iechyd.
- Gallwch chi hefyd siarad â fferyllydd am amrywiaeth o gyflyrau, gan gynnwys dolur gwddf a llid yr amrannau. Mae rhagor o wybodaeth i’w gweld yma.
- Gall ein Hunedau Mân Anafiadau helpu gyda chyflyrau fel briwiau a mân losgiadau, ysigiadau (sprains), dadleoli bysedd a bysedd traed a chyrff estron yn y llygaid a'r clustiau. Mae Uned Mân Anafiadau Ysbyty Cwm Cynon yn wasanaeth cerdded i mewn sydd ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am-5pm. Mae Uned Mân Anafiadau Ysbyty Cwm Rhondda yn wasanaeth ffôn yn gyntaf, ffoniwch 111 cyn mynychu. Mae rhagor o wybodaeth i’w gweld yma.
- Mae Gofal Llygaid Cymru yn wasanaeth rhad ac am ddim a all helpu gydag ystod o gyflyrau llygaid yn eich cymuned. Mae rhagor o wybodaeth i’w gweld yma.
- Cymorth deintyddol - os nad oes gennych chi ddeintydd y GIG a bod argyfwng oherwydd chwyddo neu waedu, yna gallwch chi ffonio ein tîm brys ar 0300 123 5060.
- Meddyg Teulu – gall y tîm yn eich meddygfa leol helpu gydag ystod eang o gyflyrau na all gwasanaethau cymunedol eraill helpu gyda nhw. Fodd bynnag, o ganlyniad i'r streic, mae meddygfeydd yn disgwyl mwy o alwadau gan gleifion sydd angen triniaeth a chyngor brys. Felly, efallai y bydd rhai meddygfeydd yn ystyried darparu apwyntiadau i’r cleifion hynny sydd â’r anghenion iechyd mwyaf brys a difrifol yn unig yn ystod cyfnod y streic.
- Gallwch chi ffonio 111 os oes gennych chi bryder brys, ond mae nifer uchel y galwadau yn golygu y bydd angen i chi fod yn barod i aros am amser hir cyn i'ch galwad gael ei hateb.
Helpwch ni hefyd drwy wneud y canlynol:
- Defnyddio meddyginiaethau dros y cownter ar gyfer anhwylderau cyffredin, lle bo'n briodol.
- Sicrhau bod gennych chi ddigon o feddyginiaethau sydd wedi’u rhoi ar bresgripsiwn.
- Sicrhau bod gennych chi gyflenwadau cymorth cyntaf digonol rhag ofn y bydd angen i chi drin mân anafiadau gartref.
- Cymryd gofal ychwanegol i osgoi llithro, baglu a chwympo, a damweiniau ar y ffordd.
- Cadw llygad ar deulu, ffrindiau a chymdogion sy'n arbennig o fregus.
Mae manylion llawn streic y GMB ar gael ar wefan Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
18/01/2023