Neidio i'r prif gynnwy

Stori Daniel Jenkins, Intern Project SEARCH

Mae intern Project SEARCH, Daniel Jenkins, wedi llwyddo i sicrhau swydd barhaol fel Cydlynydd Llif y Cleifion Band 2 o fewn yr adran Radioleg cymunedol.

Mae Project SEARCH yn rhaglen bartneriaeth enwog sy'n ymroddedig i rymuso unigolion ag anawsterau dysgu a/neu awtistiaeth trwy addysg a chyflogaeth Ers dechrau ei brentisiaeth yn 2024, mae Dan wedi dod yn aelod gwerthfawr iawn o'r tîm, gan ddangos ymrwymiad cryf ac ethos gwaith wrth sefydlu ei hun fel rhan annatod o'r tîm gweinyddol yn Ysbyty Tywysoges Cymru. Fel rhan o'i brentisiaeth, enillodd Dan gymhwyster Lefel 2 mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid hefyd, gan gryfhau ei sgiliau a'i ddatblygiad proffesiynol ymhellach.

Yn ei swydd, mae Dan yn chwarae rhan allweddol wrth gyfarfod a chyfarch cleifion, cefnogi radiograffwyr gyda rhedeg rhestrau'n esmwyth, a helpu i gynnal llif effeithlon o gleifion drwy'r adran, gan sicrhau profiad cadarnhaol i'r rhai sy'n mynychu am belydrau-X.

Mae penodiad Dan hefyd yn adlewyrchu twf parhaus swydd Cydlynydd Llif y Cleifion o fewn Radioleg, gan mai Dan yw'r ail unigolyn bellach i sicrhau swydd yn y swydd hon, yn dilyn Declan Waagenes, a chafodd ei benodi’n gyntaf trwy raglen Project SEARCH yn 2022. Mae llwyddiant y penodiad cychwynnol hwnnw wedi helpu i ddangos gwerth y swydd, gan alluogi'r gwasanaeth i ehangu a recriwtio ymhellach.

Wrth fyfyrio ar ei daith, disgrifiodd Dan y profiad fel un hynod gadarnhaol, gan bwysleisio ei fod yn dangos y gall ‘pobl ag anableddau gael swydd.’
Mae cyflawniad Dan yn enghraifft bwerus o effaith rhaglen Project SEARCH, gan arddangos y cyfleoedd y mae'n eu creu a'r gwahaniaeth ystyrlon y mae'n ei wneud. Mae ei lwyddiant hefyd yn adlewyrchu ymrwymiad cryf Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i gynhwysiant, datblygu'r gweithlu, a chefnogi unigolion ag anableddau i gael cyflogaeth gynaliadwy.

Dywedodd Rheolwr Gwasanaethau Cymorth Clinigol, Lewis Fackrell: "Dyn ni’n falch iawn o gael Dan yn gweithio gyda ni fel ein hail gydlynydd llif y cleifion. Mae’r rôl hon yn profi’n fwyfwy allweddol i redeg Pelydrau-X o ddydd i ddydd ac mae cael rhywun mor ymroddedig a gweithgar â Dan yn y swydd honno, gyda’r wybodaeth a’r profiad blaenorol y mae’n eu dwyn o swyddfa Radioleg, wedi bod yn gam hynod gadarnhaol ac yn ychwanegiad gwych at ein tîm."

Llongyfarchiadau Dan, a diolch i ti am dy waith caled a'th ymrwymiad.

06/08/2026