Rydyn ni’n angerddol iawn am gadw plant a phobl ifanc Cwm Taf Morgannwg yn hapus ac yn iach.
Heddiw (20 Tachwedd), ar Ddiwrnod Plant y Byd, rydyn ni’n edrych ymlaen at lansio 10 addewid i blant a phobl ifanc, er mwyn rhoi gwybod iddyn nhw sut y gallan nhw ddisgwyl cael eu trin gennym a’r gofal y gallan nhw ei ddisgwyl gennym ni.
Mae’r hawliau, sy’n cael eu hadnabod fel ein Siarter Plant, yn seiliedig ar egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP), Safonau Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc Llywodraeth Cymru a barn plant a phobl ifanc CTM.
Siarter ar gyfer pob plentyn (0-18 oed) sy’n byw yng Nghwm Taf Morgannwg yw hon, ni waeth a ydyn nhw’n byw gyda’u rhieni biolegol, mewn gofal maeth, yn byw’n annibynnol neu mewn unrhyw sefyllfa arall.
Dywedodd Dr Emily Payne, Pediatregydd Ymgynghorol ac arweinydd Siarter CTM:
“Rydyn ni’n falch iawn o lansio Siarter CTM heddiw! Rydyn ni (BIP CTM) yn rhoi gwerth mawr ar hawliau ein plant a’n pobl ifanc ac rydyn ni wedi ymrwymo i wneud popeth posibl i wella canlyniadau iechyd a lles ein cenedlaethau iau a’u cefnogi wrth iddyn nhw dyfu’n oedolion yn y ffyrdd y maen nhw’n eu haeddu.
“Mae ein Siarter wedi’i chynllunio ar gyfer plant a phobl ifanc CTM ac ar y cyd â nhw. Rydyn ni wedi clywed gan gannoedd o bobl ifanc; o gyfarfod â disgyblion mewn cynghorau ysgol a phwyllgorau iechyd a lles ar draws y rhanbarth, i ymuno â fforymau ieuenctid a grwpiau ieuenctid cymunedol.
“Hoffem ddiolch i’n timau ymwelwyr iechyd a nyrsys cymunedol, ein timau pediatrig a nyrsio a ‘sêr’ ein hymgyrch gyhoeddus – ein hysgolion, am eu cefnogaeth a’u cyfranogiad rhagorol.”
Drwy ein Siarter, byddwn yn:
Rydyn ni’n annog unigolion, rhieni a theuluoedd i rannu eu hadborth am eu gofal a’u profiadau. Gallwch chi wneud hyn drwy ysgrifennu atom yn: CTM.OurHealth.OurFuture@wales.nhs.uk neu rannu eich profiad trwy CIVIA, ein system adborth cleifion.
Gwybodaeth Ategol
Os ydych chi'n rhiant neu'n ofalwr sy'n byw yng Nghwm Taf Morgannwg, ein nod yw eich helpu i fwynhau'r profiad hwnnw i'r eithaf; rydym am i'ch bywyd teuluol ffynnu. Dyma ystod o wasanaethau ac adnoddau a all fod o gymorth i chi.
Cyfryngau cymdeithasol
Dilynwch daith ein Siarter ar y cyfryngau cymdeithasol ac ymunwch â'r sgwrs gan ddefnyddio #SiarterPlantCTM