"Roedd sgiliau Mr Shah wedi achub fraich Alfie, ac am hynny rydym yn ddiolchgar am byth." - Teulu o'r Rhondda yn canmol y gofal eithriadol a gawsant yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.  

Fel llawer o fechgyn eraill 15 oed, does dim byd mae Alfie yn ei hoffi'n well na threulio amser gyda'i ffrindiau, chwarae gemau ar-lein a beicio mynydd.  

Yn byw yn Nhonyrefail yng Nghymoedd Rhondda ac wedi'i amgylchynu gan fynyddoedd, mae gan Alfie a’i ffrindiau ddigon o gyfleoedd i fynd allan ar eu beiciau a datblygu eu sgiliau.  

Ac ym mis Mai, roedd Alfie wedi gwneud yn union hynny. Roedd e lan y tipiau ym Mhenygraig – ardal lleol adnabyddus i feicwyr mynydd ymarfer mynd â’u beiciau dros y rhampiau – gyda’i ddau ffrind, Arthur a Jackson.  

Roedd Alfie wedi bod yn reidio gyda'i ffrindiau ac wedi taro un o'r rhampiau ar ongl lletchwith. Syrthiodd Alfie dros y handlenni a glanio'n drwm iawn. Ar y funud honno y cafodd ei fam, Karen, yr alwad ffôn y mae pob rhiant yn ei ofni.  

“Y noson honno, roedden ni i fod i fynd i weld Max Boyce, felly roeddwn i newydd ddod allan o'r gawod pan gefais yr alwad ffôn i ddweud bod Alfie wedi syrthio oddi ar ei feic a'i fod wedi'i anafu. "Roedd hi'n ras gwyllt i gyrraedd ato, ond yn ffodus, dim ond 10 munud i ffwrdd rydw i a Damian (tad Alfie) yn byw," meddai Karen.  

“Roedd braich dde Alfie yn hynod o fflopi, a helpodd cerddwr cŵn caredig iawn, a oedd wedi bod yn cerdded yn agos, drwy wneud sling o siwmper i'w sefydlogi. Roedd ei ffrindiau wedi llwyddo i'w gymryd ar droed o'r tipiau at ein fan, a phan welais i ef, roedd yn wyn fel cannwyll corff, yn cael trafferth gweld, ac roedd y sioc yn dechrau taro. Rydw i’n nyrs, felly roeddwn i'n gwybod bod yn rhaid i mi ganolbwyntio ar gadw Alfie'n dawel a pheidio â dangos fy ngofid.” 

Ychydig dros hanner awr ar ôl derbyn yr alwad ffôn cyntaf, cyrhaeddodd Karen a Damian gydag Alfie yr Adran Argyfwng yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, a chawson nhw eu cymryd i'r Adran Argyfwng Paediatrig.  

O fewn munudau, cafodd Alfie ei weld gan y nyrs frysbennu, Ellie, ac ar ôl tynnu'r sling siwmper dros dro, daeth yn amlwg bod Alfie wedi dioddef o dorasgwrn agored yn ei fraich dde.  

Yn syth, cafodd Alfie ei gymryd i'r ardal adfywio, ei roi ar drolï, a chafodd feddyginiaeth lleddfu  poen tra roedd Ellie yn golchi'r clwyf. “Er ei bod yn brofiad trawmatig, roedd yr amgylchedd a’r awyrgylch o amgylch Alfie yn dawel iawn, er gwaethaf pa mor brysur oedd hi yn yr adran,” dywedodd Karen.  

Esboniodd y meddyg yn yr Adran Argyfwng, Dr Gareth Taylor, bopeth i Karen a Damian mewn ffordd glir a sensitif, gan gynnwys Alfie yn yr holl sgyrsiau. Oherwydd difrifoldeb y torasgwrn, dywedodd Dr Taylor y byddai angen i'r tîm gydweithio ag Ysbyty Treforys yn Abertawe – sy'n gartref i Ganolfan Losgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru – gan nad oedd yn glir ar y cam hwn a fyddai angen llawfeddygaeth blastig arbenigol ar Alfie.  

Yna, cafodd Alfie a'r teulu eu cyflwyno i'r Uwch-ymarferydd Nyrsio (ANP), Regino, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Quino. Aeth Quino ag Alfie i'r adran pelydr-X, gan egluro popeth yn rhagorol i'r teulu. Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd ei gadarnhau bod Alfie hefyd wedi torri ei fraich chwith.  

“Roedd Quino yn ANP gwych; roedd e wedi sicrhau bod Alfie yn rhan o'r holl sgyrsiau ynghylch ei ofal. Roedd e'n dawel iawn ac yn broffesiynol drwy'r amser, gan egluro pob cam a sicrhau bod Alfie mor gyfforddus â phosibl tra roedd e'n symud ei fraich yn ôl i'w le ar y slab,” parhaodd Karen.  

Gyda'r pelydrau-X bellach wedi'u cwblhau, daeth Mr Jaydeep Shah i egluro y byddai Alfie yn mynd i'r theatr y noson honno. Ar y cam hwn, roedd hi'n dal yn aneglur os fydd angen triniaeth arbenigol ar Alfie, felly roedd rhaid aros.  

Aeth Alfie i’r theatr am 11.30pm, gyda Karen a Damian yn cael eu hebrwng i Ward 17 i aros iddo ddychwelyd. “Roedd yr aros yn boenus dros ben. Ar y cam hwn, doedden ni ddim yn gwybod maint llawn anafiadau Alfie na os fydd ei fraich yn iawn. Roedd yr holl feddyliau hyn yn troi yn fy mhen, fel y posibilrwydd y byddai'n colli rhan isaf ei fraich, ond cadwais nhw i mi fy hun," dywedodd Karen.  

Am 3.15am, dychwelodd Alfie i'r ward gyda Mr Shah, a esboniodd fod braich dde Alfie wedi'i glanhau a'i thrwsio gan ddefnyddio dau blât, ond bod y clwyf yn dal ar agor. Byddai angen i Alfie ddychwelyd i'r theatr lawdriniaeth ddydd Llun i wirio'r fraich ac atgyweirio ei fraich chwith wedi torri, cyn y gallai'r broses adferiad ddechrau. 

"Roedd Mr Shah a'i dîm yn wych." Roedd yn ymweld ag Alfie bron bob dydd, hyd yn oed ar benwythnosau, ac rydw i’n credu'n gryf bod ei sgiliau wedi achub braich Alfie – ac am hynny rydym yn ddiolchgar am byth. Roedd y Brif Nyrs Sian a'i thîm ar Ward 17 hefyd yn anhygoel; doedd dim byd yn ormod o drafferth iddyn nhw, ac roedd y ffordd yr oedden nhw’n rhyngweithio â ni fel teulu yn wych. Roedd ysbryd gwych ar y ward, ac fe wnaeth hynny ein helpu'n fawr yn ystod cyfnod anodd," dywedodd Karen.  

Mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn hynod heriol i Alfie. Methodd ei arholiadau TGAU, yr oedd wedi bod yn adolygu ar eu cyfer, ac wrth i'w ddwy fraich fod mewn castiau o'r penelin i'r llaw, teimlai'n hynod ynysig. Cafodd y cast chwith Alfie ei dynnu'n gynharach na'r disgwyl, a rhoddodd Mr Shah ganiatâd i'w dynnu ar ôl rhoi rhestr o bethau i'w gwneud a phethau i'w hosgoi i Alfie, er mwyn sicrhau y gallai adennill ei annibyniaeth.  

Yn ystod apwyntiadau dilynol rheolaidd gyda Mr Shah, roedd Alfie a'i deulu yn hynod ddiolchgar am yr amser a'r ymdrech a roddwyd i'w driniaeth barhaus; cymerodd Karen yr amser i ysgrifennu neges ddiolch galonogol at Mr Shah a'r tîm, yn ogystal â rhoi siocled a bisgedi haeddiannol iawn iddyn nhw! 

Ar ddiwedd mis Gorffennaf, cafodd gast braich dde Alfie ei dynnu, ac ar y prynhawn hwnnw, roedd Alfie yn ôl ar ei feic annwyl. Mae wedi bod yn mynychu sesiynau ffisiotherapi i gynorthwyo ei adferiad, ac yn ystod ei archwiliad diweddaraf, roedd y ffisioterapydd yn hynod falch o’i gynnydd. Mae Alfie bellach yr un mor abl ag yr oedd cyn ei anaf, gyda Karen yn egluro, oni bai am y creithiau, na fyddech byth yn meddwl ei fod wedi dioddef anafiadau mor ddifrifol. 

Dychwelodd Karen ac Alfie i'r Adran Argyfwng Paediatrig ac i'r Ward yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg i ddiolch yn bersonol i bawb a gefnogodd daith Alfie, gan ddod  â chardiau diolch a thuniau o siocled i ddangos eu gwerthfawrogiad.  

“Rydym yn ddiolchgar dros ben i bawb a oedd yn rhan o daith adferiad Alfie. O'r tîm yn yr Adran Argyfwng Paediatreg, i'r staff ar y ward, Mr Shah a'i dîm llawfeddygol, y ffisiotherapyddion, y porthorion a'r staff cegin – diolch i bawb a gyfrannodd at brofiad Alfie.  

“Mae Alfie yn gwneud yn anhygoel o dda, ac rydw i’n hapus iawn i rannu ein profiadau sy’n dangos yr holl wasanaethau gwahanol hyn yn gweithio’n dda gyda’i gilydd i ddarparu gofal cleifion mor ardderchog,” dywedodd Karen.