Neidio i'r prif gynnwy

Rhodd leol yn trawsnewid ardaloedd teuluol yr Uned Babanod Newydd-anedig yn Ysbyty'r Tywysog Siarl 

Bydd teuluoedd sy'n aros yn yr Uned Babanod Newydd-anedig Ysbyty'r Tywysog Siarl yn elwa o ardaloedd teuluol mwy croesawgar a chyfforddus, yn dilyn gwelliannau a wnaed yn bosibl oherwydd rhodd hael o £10,000 gan Merthyr Cage Bird Society. 

Cafodd yr ystafelloedd gwely teulu, yr ystafell deulu a'r cyfleusterau tynnu llaeth newydd eu hagor yn swyddogol ddydd Mercher 29 Gorffennaf, pan ymwelodd aelodau’r Society â’r uned i weld sut roedd eu cefnogaeth wedi helpu teuluoedd lleol. 

Casglwyd yr arian ar gyfer y rhodd drwy gasgliadau wythnosol gan aelodau’r Society, a gododd arian bob wythnos dros nifer o flynyddoedd. Awgrymodd Rob, sy’n aelod o Merthyr Cage Bird Society, y dylid cefnogi’r Uned Babanod Newydd-anedig ar ôl y gofal a gafodd ei ŵyr yno. 

Wrth sôn am y rhodd, dywedodd Rob: 

“Cafodd fy ŵyr ei drin yn yr Uned Babanod Newydd-anedig wyth mlynedd yn ôl. Felly, pan oeddem yn penderfynu i ble y dylai’r arian fynd, awgrymais yr uned i’r aelodau eraill ac roeddent i gyd yn cytuno. 

“Rydyn ni’n casglu tua £70 bob wythnos gan ein haelodau ac, dros amser, cronnodd hynny’n rhodd o £10,000. Mae’n golygu llawer i ni weld sut mae’r arian wedi cael ei ddefnyddio a gwybod y bydd yn helpu babanod lleol a’u teuluoedd.” 

Dan arweiniad Natalie O’Dell, Arweinydd Bwydo Babanod Newyddenedigol, daeth prosiect Elusen GIG CTM â chydweithwyr o bob cwr o’r uned a sawl partner lleol ynghyd i greu newidiadau ymarferol wedi’u llunio o amgylch anghenion rhieni. 

I rai teuluoedd, mae'r Uned Babanod Newydd-anedig yn dod yn rhan o fywyd beunyddiol am ddyddiau neu hyd yn oed wythnosau. Yn ystod cyfnod a all fod yn emosiynol ac ansicr, gall cael rhywle tawel a phreifat i orffwys, tynnu llaeth neu baratoi lluniaeth wneud gwahaniaeth ystyrlon. 

Mae gorchuddion wal arbenigol sy'n addas ar gyfer amgylchedd yr ysbyty, wedi'u hargraffu a'u gosod gan Cardiff Bay Print, wedi gwneud i'r ardaloedd deimlo'n gynhesach ac yn llai clinigol. Mae goleuadau gwell yn rhoi mwy o hyblygrwydd i deuluoedd wrth ddefnyddio'r paneli awyr LED newydd, tra bod dodrefn, offer ac eitemau cartref bob dydd newydd yn gwneud arosiadau hirach ychydig yn haws. 

Mae teuluoedd hefyd yn cael eu croesawu gan furlun newydd a grëwyd gan yr artist lleol Kaci Purnell o KcpArt. Wedi'i ddatblygu gyda mewnbwn gan staff, mae'r gwaith celf yn dod â chynhesrwydd a lliw ac yn creu lle arbennig i deuluoedd nodi taith eu babi adref. 

Fe wnaeth tîm Ystadau Ysbyty’r Tywysog Siarl lleol hefyd helpu i gefnogi'r gwaith parhaus ar yr uned, gyda phaentio ac adnewyddu i gyd-fynd â'r holl newidiadau newydd.  

Dywedodd Natalie O’Dell, Arweinydd Bwydo Babanod Newyddenedigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac arweinydd y prosiect: 

“Pan fydd angen gofal newyddenedigol ar fabi, gall rhieni dreulio llawer o ddyddiau neu hyd yn oed wythnosau ar yr uned. Yn ystod y cyfnod hwnnw, gall cael rhywle cyfforddus, croesawgar a phreifat wneud gwahaniaeth enfawr. 

“Mae’r gwelliannau hyn wedi’u llunio o amgylch anghenion ymarferol ac emosiynol ein teuluoedd. Byddan nhw’n helpu rhieni i orffwys ac aros yn agos at eu babanod, gan wneud i’r ardaloedd deimlo’n gynhesach ac yn debycach i gartref oddi cartref.” 

 

 

Dywedodd Abe Sampson, Pennaeth Elusen GIG CTM: 

“Rydym yn hynod ddiolchgar i Rob ac i holl aelodau Merthyr Cage Bird Society am y rhodd hael hon. Mae casglu arian wythnos ar ôl wythnos a’i gronni’n rhodd mor hael yn dangos yr ymrwymiad sydd y tu ôl i’w cefnogaeth. 

Mae eu rhodd wedi helpu i wneud yr uned yn fwy croesawgar a chyfforddus i deuluoedd a all dreulio llawer iawn o amser yma. Mae’n enghraifft wych o bobl leol yn dod ynghyd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol.” 

Bydd rhan o’r rhodd yn cefnogi rhagor o welliannau wrth i anghenion yr uned ddatblygu ac wrth i deuluoedd barhau i rannu eu hadborth. Mae gwaith pellach hefyd ar y gweill i gefnogi teuluoedd sy’n defnyddio’r Uned Babanod Newydd-anedig, gyda chymorth Tilbury Douglas, a bydd yn cael ei lansio dros yr wythnosau nesaf. 

Mae cefnogaeth gan sefydliadau lleol fel Merthyr Cage Bird Society yn caniatáu i Elusen GIG CTM ddarparu cysuron a gwelliannau ychwanegol i gleifion a theuluoedd.  

Gallai eich grŵp neu'ch gweithle helpu i wireddu'r prosiect nesaf?  

Dysgwch sut i gyfrannu at eich gwasanaeth ysbyty lleol neu godi arian ar gyfer Elusen GIG CTM yma

Gyda'n gilydd, rydym yn gwneud i bethau da ddigwydd.