Neidio i'r prif gynnwy

Rhestr fer y Nursing Times ar gyfer gwasanaeth awtistiaeth CTM

Mae tîm Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cwm Taf Morgannwg wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Tîm y Flwyddyn 2026 y Nursing Times, gan gydnabod ei waith rhagorol i drawsnewid gwasanaethau awtistiaeth a gwella gofal i bobl ledled y rhanbarth.

Gan ddod â nyrsys, therapyddion galwedigaethol, therapyddion lleferydd ac iaith, gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr cymorth gofal iechyd ynghyd, gweithiodd y tîm ar y cyd i gryfhau prosesau asesu, meithrin gallu'r gweithlu a chreu gwasanaeth mwy cyson, sy'n canolbwyntio ar y person. Mae'r tîm wedi cyflwyno rhaglen gymorth ôl-ddiagnostig strwythuredig a mentrau arloesol fel prosiect gardd therapiwtig.

Mae bod yn rhan o'r rhestr fer yn dystiolaeth amlwg o ymroddiad pawb yn y tîm, gan sicrhau bod pobl awtistig yn derbyn y gefnogaeth amserol o ansawdd uchel y maent yn ei haeddu.

Cyhoeddir enillwyr Gwobrau'r Nursing Times 2026 yn ddiweddarach eleni.

03/07/2026