Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen brechiadau atgyfnerthu COVID y gwanwyn i bobl dros 75 oed a'r rheini sydd fwyaf agored i niwed

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd rhaglen brechiadau atgyfnerthu’r gwanwyn COVID-19 yn dechrau ar 1 Ebrill ar gyfer y bobl sydd fwyaf agored i niwed, gan gynnwys pobl dros 75 oed.

Cliciwch yma i ddarllen i ddatganiad diweddaraf Llywodraeth Cymru

Pwy sy'n gymwys?

Yn dilyn cyngor gan y Cyd-bwyllgor arbenigol ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), bydd y brechlyn yn cael ei gynnig i:

  • oedolion sy’n 75 oed neu’n hŷn;
  • preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn; ac
  • unigolion 5 oed a throsodd sydd â system imiwnedd wan.

Dydw i ddim wedi cael unrhyw Frechiadau eto, ydw i dal yn gymwys?

Rydych chi’n gymwys i gael brechiad atgyfnerthu’r gwanwyn

  • Os ydych chi’n perthyn i unrhyw un o'r grwpiau cymhwysedd uchod
  • Os ydych chi wedi cwblhau cwrs sylfaenol o frechlynnau, sy'n golygu:
    • 1af, 2il neu 3ydd (os oes gennych chi system imiwnedd wan) ac
    • os oes 91 diwrnod (13 wythnos) wedi mynd heibio ers eich brechlyn blaenorol.

Alla’ i dal gael fy nghwrs sylfaenol neu frechiad atgyfnerthu?

Gallwch! Ond mae'r amser yn brin - dim ond tan 30 Mehefin sydd gennych chi i gael dosau 1 a 2 (Sylfaenol) a bydd y cynnig atgyfnerthu cyffredinol yn dod i ben ar 31 Mawrth. Cliciwch yma i gael y manylion llawn.

Bydd pobl sy'n datblygu cyflwr iechyd newydd sy'n eu rhoi mewn grŵp risg glinigol, a oedd heb gael eu cwrs sylfaenol a/neu eu dos atgyfnerthu eto, yn dal i allu cael eu brechu ar gyngor clinigydd.

Pryd byddwch chi’n cysylltu â fi?

Os ydych chi'n gymwys i gael eich brechiad atgyfnerthu’r gwanwyn, byddwch chi’n cael gwahoddiad o ganol mis Mawrth. Byddwch chi’n cael eich gwahodd i fynd i un o'n chwe chanolfan frechu gymunedol i gael eich brechiad.

Ble alla i ddod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf?

Bydd sianeli cyfryngau cymdeithasol Cwm Taf Morgannwg yn postio diweddariadau rheolaidd, ochr yn ochr â'n gwefan - bydd y newyddion diweddaraf ar gael yma .

Oes cynlluniau ar gyfer mwy o frechiadau atgyfnerthu?

Yn ogystal â rhaglen brechiadau atgyfnerthu'r gwanwyn, bydd rhaglen brechiadau atgyfnerthu'r hydref yn ddiweddarach eleni, yn dilyn cyngor pellach gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu.

 

20/03/2023