Neidio i'r prif gynnwy

Prosiect sy'n helpu defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl i 'aros cystal â phosibl' yn dangos arwyddion cynnar cadarnhaol

Mae prosiect peilot yn ne Cymru yn ceisio gwella cefnogaeth i bobl sy'n aros am therapïau seicolegol.

Mae'r prosiect 'aros cystal â phosibl', a ariennir gan Gyfnewidfa Q y Sefydliad Iechyd, yn canolbwyntio ar wella profiadau pobl sy'n aros i gael eu gweld gan wasanaeth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol Lleol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Mae’r prosiect peilot yn cael ei gyflwyno gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a chyfarwyddiaeth Ansawdd, Diogelwch a Gwella Gweithrediaeth GIG Cymru. Mae’r prosiect wedi cael ei gyd-gynhyrchu â phobl sydd â phrofiad bywyd o wasanaethau iechyd meddwl, pobl sy’n aros am ymyriadau seicolegol ar hyn o bryd ac asiantaethau partner. Mae'n profi a all cyflwyno cymorth ychwanegol wella profiadau pobl o aros.

Mynd i'r afael â theimladau o anobaith ac unigedd

Roedd ymchwil a gyd-gynhyrchwyd yn yr adran seicoleg yn dangos bod pobl a oedd yn aros eisiau mwy o gysylltiad â'r gwasanaeth. Dywedodd pobl a oedd yn aros yn aml fod diffyg cyfathrebu wrth aros yn ychwanegu at deimladau o anobaith ac unigedd.

Y prawf o newid

Gan gydnabod y gwerth y dangoswyd bod mentoriaid cymheiriaid yn ei gynnig mewn meysydd eraill o ofal iechyd meddwl, mae tîm y prosiect yn treialu rôl gweithiwr cymorth cymheiriaid i ddarparu ystod o gymorth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth iddo aros.

Fel rhan o'r treial, mae dwy garfan: un sydd â phobl yn cael cymorth 'fel arfer' ac un sydd â phobl yn cael cymorth wedi'i deilwra gan y gweithiwr cymorth cymheiriaid. Mae’r ddau grŵp yn cwblhau Mesur Profiad a Adroddir gan Gleifion (PREM) a ddatblygwyd gan dîm y prosiect fel rhan o’r prawf newid.

Er bod y treial yn mynd rhagddo, mae adborth cychwynnol i rôl y gweithiwr cymorth cymheiriaid wedi bod yn optimistaidd. Mae pobl wedi dweud y canlynol wrthym:

“Mae hyn mor braf, rwy'n teimlo fel fy mod yn cael fy nghlywed. Edrychaf ymlaen at gwrdd â chi eto.” 

“Mae’n braf bod rhywun yn deall.”

“Diolch yn fawr am gwrdd â mi yr wythnos diwethaf. Roeddech yn garedig iawn. Mae fy hwyliau'n dda iawn yr wythnos hon.

Dywedodd Dr Andrea Davies, cyd-arweinydd y prosiect 'aros cystal â phosibl', Pennaeth Seicoleg Iechyd Meddwl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf: “Mae’r prosiect hwn wedi tyfu o syniad a gyflwynwyd i’r Gyfnewidfa Q y llynedd, ac mae  wedi datblygu a ffynnu eleni, diolch i fewnbwn gwerthfawr gwahanol unigolion, partneriaid a grwpiau.

“Rydym eisoes wedi casglu’r dysgu cyfoethog o’r gwaith hwn, ac rydym yn edrych ymlaen at adeiladu arno a’i rannu yn y misoedd i ddod.”

15/08/2024