Neidio i'r prif gynnwy

Prosiect QuicDNA yn cael ei ehangu ledled Cymru gan arwain y chwyldro mewn diagnosis canser yr ysgyfaint  

Mae’r astudiaeth QuicDNA wedi gwneud darganfyddiadau pwysig o ran diagnosis canser yr ysgyfaint ac mae newydd gyrraedd carreg filltir bwysig wrth i’r prosiect gael ei gyflwyno mewn chwech Bwrdd Iechyd yng Nghymru. Mae hwn yn gam enfawr ymlaen wrth ddarparu mynediad at dechnoleg biopsi hylif i gleifion ledled y wlad. Mae gan y dechnoleg newydd yma botensial i drawsnewid llwybrau gofal cleifion o ran diagnosis a thriniaeth.   

Dechreuodd y prosiect QuicDNA yn gynnar yn 2022 yn canolbwyntio ar gynnwys profion ctDNA anymwthiol oddi mewn i broses diagnostig canser yr ysgyfaint. Drwy ddadansoddi sampl gwaed syml, mae biopsïau hylif yn cynnig dewis llai ymwthiol a chyflymach na biopsïau meinwe traddodiadol. Mae’r datblygiad hwn yn cyflymu penderfyniadau ynghylch diagnosis a thriniaeth, gyda’r nod o wella canlyniadau i gleifion a chyfraddau goroesi.  

Mae’r prosiect wedi ymrwymo i gasglu tystiolaeth ar lawr gwlad o werth ac effaith profion biopsi hylif mewn llwybrau trin canser, gan gyfrannu at Ofal Iechyd Seiliedig ar Werth. Cynhaliwyd y prosiect yn wreiddiol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro, ond bellach mae’r astudiaeth QuicDNA wedi ehangu i bedwar ardal newydd arall: Byrddau Iechyd Cwm Taf Morgannwg, Hywel Dda, Bae Abertawe a Betsi Cadwaladr. Roedd y Ganolfan Treialon Ymchwil yng Nghaerdydd yn allweddol o ran sefydlu a chynnal yr astudiaeth, gan sicrhau bod y gwaith yn cael ei gyflwyno’n ddidrafferth ar draws yr ardaloedd. Wrth ehangu’r astudiaeth i ragor o ardaloedd, bydd modd i gleifion ledled Cymru gael budd o’r dechnoleg arloesol hon.   

Mae gweithio ar y cyd yn ganolog i’r prosiect QuicDNA, gyda phartneriaid o ofal iechyd, diwydiant a’r llywodraeth yn cydweithio i drawsnewid llwybrau triniaeth canser.  

  • Canfod a thrin y canser yn gynnar: Mae biopsïau hylif anymwthiol ar gyfer canser yr ysgyfaint yn galluogi cynnal profion yn gynharach ar y llwybr trin canser, yn cyflymu’r broses penderfyniadau ar gyfer triniaethau wedi’u targedu, ac yn y pen draw gobeithio, yn gwella’r canlyniadau i gleifion a chyfraddau goroesi.  

  • Casglu tystiolaeth ar lawr gwlad: Mae’r prosiect yn gwerthuso tystiolaeth a gesglir ar lawr gwlad o werth ac effaith profion biopsi hylif mewn llwybrau trin canser, gan ddilyn egwyddorion Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth.   

  • Cymru ar flaen y gad: Drwy fabwysiadu dulliau genomeg arloesol, mae Cymru ar flaen y gad o ran darparu triniaethau gofal iechyd ar y rheng flaen a all achub bywydau.   

  • Trawsnewid gwasanaethau diagnostig: Mae Llywodraeth Cymru, ar y cyd â phartneriaid amlddisgyblaethol ym maes gofal iechyd, diwydiant a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, wedi ymrwymo i drawsnewid gwasanaethau diagnostig yng Nghymru drwy bwyso a mesur technolegau newydd, megis biopsïau hylif.   

Yn y dyfodol, bydd y data gesglir yn caniatáu gwerthusiad economeg iechyd, gyda’r nod y bydd GIG Cymru yn comisiynu ctDNA yn rheolaidd erbyn 2025. Mae’r prosiect hwn nid yn unig yn ceisio gwella diagnosis canser yr ysgyfaint, ond hefyd yn braenaru’r tir ar gyfer defnyddio biopsi hylif gyda mathau eraill o ganser, gan arwain at gamau trawsnewidiol o ran gofal canser.  

“Dyma’r dyfodol o ran diagnosis canser, a diolch i’r cynllun hwn ac eraill, gall Cymru fod mewn safle gwych i ddarparu hyn a gwella’r canlyniadau i’n poblogaeth - oherwydd maen nhw’n haeddu hynny.” Yr Athro Tom Crosby, Oncolegydd Ymgynghorol, Cyfarwyddwr Clinigol Canser Cymru.  

“Mae wedi bod yn anrhydedd anhygoel i fod yn rhan fechan o’r tîm QuicDNA, yn gweithio i gyflwyno diagnosis cyflymach i gleifion fel fi yn y dyfodol. Cymrodd 78 diwrnod i fi gael diagnosis o ganser ar fy nhiwmor, ond doedd dim bai ar neb am hynny. Yn ystod y 78 diwrnod hynny, doeddwn i ddim yn gallu cario ymlaen oherwydd fy mod yn poeni am beth oedd o’m blaen. Doeddwn i chwaith ddim wedi cael unrhyw driniaeth ar gyfer fy nghlefyd. Gyda’r dechnoleg newydd hon, gall teuluoedd sydd yn yr un sefyllfa â fi elwa o gael diagnosis a thriniaeth yn gynt, fel eu bod yn gallu mwynhau’r amser gwerthfawr gyda’i gilydd. Mae’r prosiect hwn yn enghraifft go-iawn o bobl ymroddgar o wahanol adrannau o’r system gofal iechyd yn dod ynghyd i ddatrys problem. Po fwyaf y gallwn ni gydweithio i fynd i'r afael â’r clefyd hwn, y gorau bydd y dyfodol i bawb.” - Craig Maxwell (cynrychiolydd cleifion ar grŵp llywio QuicDNA)   

I gael gwybod mwy am y prosiect QuicDNA, ewch i: Gwerthusiad byd go iawn ar gyfer biopsi hylif QuicDNA  

 

30/09/2024