Neidio i'r prif gynnwy

Prosiect Esiamplwyr Bevan - Cyflwynwyd tim prosiect yn Niwrnod Hyb Cymru RCSLT wythnos diwethaf.

Mae tîm prosiect sy’n torri amseroedd aros ar gyfer cleifion mewn cartrefi gofal ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sydd angen cael cyngor amlddisgyblaethol, wedi rhoi cyflwyniad yn Niwrnod Hyb Cymru Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd (RCSLT) yr wythnos hon.

Mae'r prosiect Esiamplwyr Bevan hwn, a enillodd Wobr Datblygu Gofal Iechyd yn ddiweddar, yn ffordd integredig newydd o ddarparu gofal llyncu, maeth a rheoli meddyginiaeth i breswylwyr cartrefi gofal er mwyn gwella canlyniadau clinigol, lleihau nifer y bobl sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty yn ddiangen a gwella boddhad swydd i staff iechyd a gofal cymdeithasol.

Gan ddefnyddio platfform rhithwir Attend Anywhere, sicrhawyd bod y gwasanaeth ar gael i fwy na 260 o breswylwyr cartrefi gofal yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr.  Mae hwn yn fodel integredig a all gael ei ymestyn yn hawdd ledled Cymru.  

Sheiladen Aquino, Therapydd Iaith a Lleferydd Arweiniol Clinigol, yw arweinydd y prosiect yn CTM. Meddai hi: “Oherwydd y pwysau yn sgil COVID-19 rydym yn gweld amseroedd aros cynyddol yn y sector cartrefi gofal, yn enwedig i breswylwyr ag anawsterau llyncu a all arwain at ddiffyg maeth, methiant i gymryd meddyginiaeth a derbyniadau heb eu cynllunio i'r ysbyty.”

Mae gan y prosiect dri nod:

  • darparu hyfforddiant amlddisgyblaethol i staff cartrefi gofal i reoli risgiau tra bod gwasanaethau iechyd yn adfer ar ôl y pandemig, 
  • cyd-ddylunio llwybr clinigol integredig effeithlon gyda nifer o randdeiliaid
  • archwilio mesurau canlyniadau cynhwysfawr i gynnwys effeithlonrwydd, osgoi derbyniadau i ysbytai a chanlyniadau clinigol

Ychwanegodd Sheiladen: “Ar ôl i hyfforddiant gael ei ddarparu fel rhan o'n prosiect, roedd staff cartrefi gofal yn teimlo’n fwy hyderus yn rheoli problemau llyncu, maeth a meddyginiaeth sylfaenol i liniaru risgiau'n effeithiol.

“Maen nhw’n cynnal asesiadau ar y cyd gan ddefnyddio ymgyngoriadau fideo grŵp trwy'r platfform ar-lein Attend Anywhere ac yn datblygu cynlluniau gofal disgwyliedig ar y cyd.

“Rydym yn gweld canlyniadau rhagorol. Mae un dull atgyfeirio i gael mynediad at dri phroffesiwn perthynol i iechyd arbenigol wedi lleihau mewnbwn meddygon teulu, wedi dileu nifer o restrau aros ac wedi arwain at ostyngiad o 70% mewn amseroedd aros.

“Mae lefel maeth preswylwyr, eu cydymffurfiaeth o ran cymryd meddyginiaeth a’u hansawdd bywyd wedi gwella. Gwelwyd gostyngiad o 50% yn y posibilrwydd y byddai cleifion yn cael eu derbyn i'r ysbyty yn ddiangen.

“Gwelwyd hefyd fod staff cartrefi gofal yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi'n fwy a nodwyd bod y ffordd newydd hon o weithio yn rhoi boddhad iddyn nhw yn eu swydd.”

Rhoddodd Lauren Edwards, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau mewn Gwyddor Iechyd CTM, gyflwyniad hefyd yn y digwyddiad i rannu ei thaith arweinyddiaeth, dysgu a myfyrio. Nod digwyddiad RCSLT Cymru oedd adeiladu arweinyddiaeth a dysgu mwy am bwysigrwydd partneriaethau a chydweithio yng nghyd-destun cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

LlunAmber McCollum, Therapydd Iaith a Lleferydd Tra Arbenigol; Sheiladen Aquino, Therapydd Iaith a Lleferydd Arweiniol Clinigol; Kamini Gadhock, Prif Swyddog Gweithredol RCSLT; Jodie Miller, Ymarferydd Cyswllt Therapi Iaith a Lleferydd; Steve Jamieson, Prif Swyddog Gweithredol RCSLT; Lucy Marland, Deietegydd Arweiniol Cartrefi Gofal Tra Arbenigol

 

14/03/2023