Neidio i'r prif gynnwy

Prawf Gwasanaeth Rhybuddio Brys ddydd Sul, 23 Ebrill

Cynhelir prawf cenedlaethol o Wasanaeth Rhybuddio Brys y DU ddydd Sul, 23 Ebrill am 3pm. Bydd pobl sydd â ffonau symudol a llechi 4G a 5G cydnaws yn derbyn rhybudd fel rhan o'r prawf hwn. 

Mae Rhybudd Brys yn edrych ac yn swnio'n wahanol iawn i fathau eraill o negeseuon fel negeseuon testun SMS. Byddwch yn clywed sain uchel, tebyg i seiren - hyd yn oed os yw ar ‘silent mode’ - a bydd eich ffôn yn defnyddio dirgryniad gwahanol a bydd neges yn ymddangos ar eich sgrin nes i chi ei gydnabod.  

Pan fyddwch chi'n cael rhybudd, stopiwch yr hyn rydych chi'n ei wneud a dilynwch y cyfarwyddiadau yn y rhybudd. Bydd y sain a'r dirgryniad yn para am oddeutu 10 eiliad. 

Bydd y rhybudd ar 23 Ebrill yn dweud: Bydd y rhybudd yn dweud: 

“Dyma brawf o Rybuddion Brys, gwasanaeth newydd gan lywodraeth y DU a fydd yn eich rhybuddio os oes argyfwng sy'n peryglu bywyd gerllaw. Mewn argyfwng gwirioneddol, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y rhybudd i gadw'ch hun ac eraill yn ddiogel. Ewch i gov.uk/alerts i gael rhagor o wybodaeth. Prawf yw hwn. Nid oes angen i chi gymryd unrhyw gamau.” 

 

A allaf optio allan?  

Gallwch optio allan o Rybudd Brys. Er yr argymhellir yn gryf nad yw pobl yn optio allan o'r gwasanaeth gan mai ei fwriad yw rhybuddio pan fo bywydau mewn perygl, anogir dioddefwyr trais domestig sy'n defnyddio ffonau cudd i ddiffodd y rhybuddion. Er mwyn osgoi derbyn Rhybuddion Brys, gallwch hefyd ddiffodd eich ffôn symudol neu ei roi ar ‘airplane mode’.  

Optio allan ar iPhone: 

  • I optio allan, chwiliwch yn eich gosodiadau am 'emergency alerts' a diffoddwch ‘severe alerts’ ac ‘emergency alerts’. 

  • Os nad yw hyn yn gweithio, cysylltwch â gwneuthurwr eich dyfais.  

  • Am gyngor pellach ewch i gov.uk/alerts/opt-out 

Optio allan ar ffonau a llechi Android: 

  • I optio allan, chwiliwch yn eich gosodiadau am 'emergency alerts' a diffoddwch ‘severe alerts’ ac ‘emergency alerts’. 

  • Ar ddyfeisiau Huawei sy'n rhedeg EMUI 11 neu'n hŷn, chwiliwch eich gosodiadau am 'emergency alerts' a diffoddwch “Extreme threats”, “Severe threats” a “Show amber alerts” 

  • Os nad yw hyn yn gweithio, cysylltwch â gwneuthurwr eich dyfais 

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n gyrru?  

Os ydych yn gyrru neu'n reidio beic modur pan fyddwch yn cael rhybudd, ni ddylech ddarllen nac ymateb i rybudd brys. Mae'n anghyfreithlon defnyddio dyfais llaw wrth yrru neu reidio. 

Dewch o hyd i rywle diogel a chyfreithiol i stopio cyn darllen y neges. Os nad oes unrhyw le diogel neu gyfreithiol i stopio'n agos, ac nad oes neb arall yn y cerbyd i ddarllen y rhybudd, tiwniwch i mewn i radio byw ac aros am fwletinau nes y gallwch ddod o hyd i rywle diogel a chyfreithiol i stopio. 

Hygyrchedd 

Os oes gennych nam ar eich golwg neu glyw, bydd signalau sain a dirgryniad yn rhoi gwybod i chi fod gennych rybudd brys. 

Yn dibynnu ar nodweddion eich ffôn, bydd y rhybudd yn gweithio drwy chwyddo’r sgrin ac efallai y bydd yn darllen y neges i chi hefyd.  

Dylai'r rhai sy'n defnyddio cymorth clyw hefyd fod yn gallu clywed y sŵn unigryw a fydd yn cael ei greu gan y ffôn. 

Bydd rhybuddion brys yn cael eu hanfon yn Saesneg. Yng Nghymru, gellir eu hanfon yn Gymraeg hefyd. 

Os na allwch dderbyn rhybuddion brys 

Os nad oes gennych ffôn symudol, peidiwch â phoeni — byddwch yn dal i gael gwybod drwy'r cyfryngau a'r gwasanaethau brys lleol. 

Ni fydd rhybuddion brys yn disodli newyddion lleol, radio, teledu na chyfryngau cymdeithasol. 

I gael rhagor o wybodaeth am Rybuddion Brys, ewch i www.gov.uk/alerts

 

18/04/2023