Neidio i'r prif gynnwy

Peidiwch â chwympo amdani – nid yw cwympo yn rhan arferol o heneiddio

Rhwng 16 a 20 Medi, byddwn yn cynnal cyfres o stondinau dros dro ac yn rhoi cyngor a gwybodaeth am atal cwympiadau.

Os ydych chi neu rywun annwyl wedi cwympo, neu efallai eich bod yn poeni am gwympo, mae ein Gwasanaeth Atal Cwympiadau yma i helpu.

Nid yw cwympo yn rhan arferol o heneiddio.

  • Yng Nghymru mae rhwng 230,000 a 460,000 o bobl dros 60 oed yn cwympo, ond mae modd atal dros 50% o gwympiadau.
  • Mae 50% o bobl yn colli hyder ar ôl cwympo ond gellir ailadeiladu hyder.
  • Gall teimlo’n ansicr gyfrannu at faglu a chwympo ond gall gwella cryfder a chydbwysedd wneud i chi deimlo’n fwy cadarn.

Os ydych chi neu rywun annwyl yn ei chael hi'n anoddach codi a cherdded o gwmpas, yn cael pethau'n fwy anodd pan fyddwch allan, neu'n ofni cwympo, efallai y byddwch chi'n elwa o gael MOT cwympiadau a dosbarth ymarfer corff.

Os ydych chi’n ymweld â’n hysbytai yn ystod y dyddiadau hyn, edrychwch am ein stondinau dros dro (gwybodaeth isod).

Llinell Gymorth am Gwympo

Rydych chi hefyd yn gallu cysylltu â’n llinell gymorth am ragor o wybodaeth:

Ffôn: 01443 715013
E-bost: CTM.DontFallForIt@wales.nhs.uk

 

Stondinau Gwybodaeth

Dyma amserlen o’n stondinau dros dro lle byddwch chi’n gallu derbyn gwybodaeth a chwrdd â’n harbenigwyr cwympo...

Dydd Llun 16 Medi

  • Cyntedd Ysbyty’r Tywysog Siarl – 9yb i 12.30yp
  • Cyntedd Ysbyty Dewi Sant – 9yb i 12.30yp

Dydd Mawrth 17 Medi

 Dydd Mercher 18 Medi

  • Llyfrgell Aberdâr rhwng 10yb a 12yp

Dydd Iau 19 Medi

  • Cynon Linc, Aberdâr CF44 7BD o 11yb tan 12.30yp
  • Fferyllfa Ysbyty Tywysoges Cymru rhwng 10yb a 12yp
  • Cyntedd Ysbyty Cwm Cynon rhwng 1 a 4yp

Dydd Gwener 20 Medi

  • Cyntedd Ysbyty Brenhinol Morgannwg o 9 tan 11.30yb
  • Cyntedd Ysbyty Cwm Rhondda rhwng 1 a 3yp

 

Digwyddiad Atal Cwympiadau a Lles Pen-y-bont ar Ogwr

Dyddiad: Dydd Mawrth Medi 17
Lleoliad: The Hi-Tide, Porthcawl CF36 5BT
Amser: 10yb - 2yp

Mae'r digwyddiad (am ddim) Atal Cwympiadau a Lles hwn yn agored i bawb:

  • Dewch i weld beth sydd ar gael i'ch helpu i gadw'n actif
  • Gwybodaeth a chyngor ar gael gan amrywiaeth o grwpiau, proffesiynau a sefydliadau o bob rhan o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
  • Rhowch gynnig ar y raffl am ddim - gwobrau lluosog i'w hennill
  • Gweithgareddau a gwiriadau ar gael i bawb fel Tai Chi, gwiriadau pwysedd gwaed, gwiriadau cymorth cerdded a mwy
  • Lluniaeth am ddim

Gweld manylion llawn y digwyddiad yma.

 

Adnoddau Ychwanegol

11/09/2024